E N G L I S H

Owen Jones (Owain Myfyr, 1741-1814)


Owen Jones (Owain Myfyr)

Owen Jones (Owain Myfyr)


Brodor o Lanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych, oedd Owen Jones. Adwaenid ef wrth yr enw barddol Owain Myfyr. Ac yntau'n llanc ifanc, symudodd i Lundain. Prentisiwyd ef i grwynwr, ac erbyn y 1780au yr oedd yn feistr arno ef ei hun ac wedi ennill cryn ffortiwn. Meithrinwyd ei ddiddordebau llenyddol gan gymdeithasau'r Cymry yn Llundain: bu'n aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac ym 1770 yr oedd yn un o sylfaenwyr cymdeithas newydd, sef Cymdeithas y Gwyneddigion.

Cymeriad diymhongar oedd Owain Myfyr ac nid oedd yn chwennych bod yn geffyl blaen. Ond defnyddiodd ei ffortiwn i hybu gweithgarwch diwylliannol y cymdeithasau hyn, a chyfrifir ef, felly, yn un o noddwyr pwysicaf ei gyfnod. Bu'n casglu ac yn copïo cerddi Dafydd ap Gwilym, ac yn golygu testunau gyda William Owen Pughe. Ef a ysgwyddodd y gost o argraffu Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) a thair cyfrol swmpus The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7).

Daeth Iolo i adnabod Owen Jones ddechrau'r 1770au a hynny drwy John Walters. Y mae eu llythyrau cynnar yn dyst eu bod yn eneidiau hoff cytûn. Trafodent ystod eang o ddiddordebau diwylliannol ag asbri, ac am gyfnod o leiaf gwnaethant ymdrech hunanymwybodol i ohebu â'i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg (Llythyr Iolo Morganwg at Owen Jones (Owain Myfyr), 12 Ionawr 1777 (NLW 1808Eii, rhif 1519); Llythyr Owen Jones (Owain Myfyr) at Iolo Morganwg, 11 Gorffennaf 1779). Y mae eu llythyrau hefyd yn dyst i'r swyddogaeth gymdeithasol werthfawr a gyflawnai cymdeithasau'r Cymry yn Llundain, gan eu bod yn holi'n gyson ynghylch aelodau eraill ac yn cyfnewid cerddi ffraeth ac anllad.

Fodd bynnag, nid oedd perthynas Iolo ag Owain Myfyr yn syml, a hynny'n bennaf am fod Owain Myfyr yn noddwr i Iolo yn ogystal â bod yn gyfaill iddo. Wrth iddynt gydweithio ar y Myvyrian Archaiology of Wales daeth eu cyfeillgarwch dan straen enbyd, er gwaethaf ymdrechion William Owen Pughe i dawelu'r dyfroedd. O tua 1798 ymlaen dechreuodd Pughe weithio ar y Myvyrian Archaiology of Wales a disgwyliai Owain Myfyr i Iolo ei gynorthwyo â'r gwaith. Ond câi Iolo anhawster i neilltuo amser digonol i'r gwaith ac ofnai Owain Myfyr nad oedd yn tynnu ei bwysau a'i fod yn hybu achos yr Undodiaid ar draul eu prosiect diwylliannol pwysig. Credai Owen Jones fod Iolo yn manteisio arno'n ariannol, a dwysawyd ei ofnau yn hyn o beth oherwydd bod ei fusnes ei hun yn colli arian.

Yr oedd dehongliad Iolo yn wahanol eto, fel y dengys llythyr chwerw a luniodd (Llythyr Iolo Morganwg at Owen Jones (Owain Jones), 5 Ebrill 1806). Siomwyd Iolo pan fethodd Owain Myfyr wireddu ei addewid i roi blwydd-dal o £50 iddo er mwyn iddo allu rhoi'r gorau i'w waith fel saer maen a gweithio fel awdur proffesiynol. Teimlai'n rhwystredig nad oedd ei gyfeillion yn ei ddeall a chredai'n gryf fod y ddau wedi ei gamarwain a'i dwyllo yn fwriadol: 'William Owen, a chydag ef Owen Myfyr, a ellir yn gyfiawn eu cymharu a Suddas, pob un megis a chyfarch teg a chusan, yn bradychu' (NLW 21419E, t. 58). Daeth eu gwaith ar y cyd i ben ym 1806 ac felly hefyd eu cyfeillgarwch i bob pwrpas (Gweler y gerdd a ganodd Iolo i Owain Myfyr).

Rhagor na hynny, ni allai Iolo wahaniaethu rhyngddynt a gogleddwyr yn gyffredinol, a daeth i synio am y rhwyg rhyngddo a'i ffrindiau yn nhermau'r tyndra cyffredinol rhwng de a gogledd (Rhagoriaeth De Cymru). Yr oedd Barddas yn dyrchafu sir Forgannwg beth bynnag, ond wedi'r rhwyg rhyngddo ef ac Owain Myfyr a William Owen Pughe, dialodd ar wŷr y gogledd trwy wadu lle i feirdd gogledd Cymru yn hanes Barddas ac achub ar bob cyfle i ladd ar feirdd a llenyddiaeth a hanai o ogledd Cymru. (Gweler 'Schools of Welsh poetry, a sketch' a 'The History of the Bards')
Admin