C Y M R A E G

I Owain Myfyr


Cenfigen sydd yn ddistaw lidiawg
A hyn am achos bychan iawn
Pob gair o'i genau'n dra chelwyddawg
A gwenwyn sarphes ynddi'n llawn,
Bront yw'r ellellyes falch annifyr
A llawer bryntyn iddi'n wâs
Pwy fell'n fwy nag Owain Myfyr
Ai ddichell mawr a'i gelwydd cas

Nid tebyg iddaw dan y Nefoedd,
Neb am ddichellion iddo'n ail,
Neb iddaw'n frawd a chwilio bydoedd
Myrdd fwy'n ei rhif eu rhif y dail,
Ar bennill englyn cân a chywydd,
Eithafoedd anglod fydd ei ran
Bydd sôn am dano yn dragywydd
A'i enw yn drewi ym mhob man.

Iolo Morganwg


(NLW 13148A, t. 175)

Admin