E N G L I S H

David Thomas (Dafydd Ddu Eryri, 1759–1822)


David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)
Ysgolfeistr oedd y bardd o'r Waunfawr, ger Caernarfon, ond, fel Iolo, ni chawsai lawer o addysg ffurfiol ei hun. Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a bu'n gyfrifol am sefydlu nifer o gymdeithasau llenyddol yn y cylch i hyfforddi gwŷr lleol yng nghyfrinion Cerdd Dafod: Gutyn Peris, Gwilym Peris, Hywel Eryri, Gwyndaf Eryri, Owain Gwyrfai a Siôn Lleyn. Cyhoeddwyd barddoniaeth Dafydd Ddu Eryri a gwaith rhai o'i 'gywion' yn Corph y Gaingc (1810).

Yr oedd yn aelod gohebol o'r Gwyneddigion a chynorthwyodd Owain Myfyr, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg trwy gasglu a chopïo deunydd mewn llawysgrif ar gyfer The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7).

Bu'n llwyddiannus fel cystadleuydd yn eisteddfodau'r Gwyneddigion (1790, 1791), ond gŵr ceidwadol oedd Dafydd Ddu a gwrthwynebai radicaliaeth wleidyddol y gymdeithas a'i haelodau, ac ymhellach credai fod y Cymry alltud hyn yn ymyrryd yn ormodol â diwylliant y Cymry brodorol. Ymateb hunanol ac amddiffynnol, o bosibl, oedd hwn, ond wrth ddannod i'r Gwyneddigion eu hamlygrwydd mewn materion eisteddfodol yng Nghymru, roedd Dafydd Ddu Eryri ac Iolo Morganwg, o leiaf, yn eneidiau hoff cytûn.

Urddwyd ef gan Iolo yn aelod o'r Orsedd ar ben Bryn Dinorwig, Hydref 1799, ond, serch hynny, roedd Dafydd Ddu Eryri ymhlith y cyntaf i amau dilysrwydd Barddas, Dosbarth Morganwg, a Choelbren y Beirdd, sef yr wyddor dderwyddol a grewyd gan Iolo. Ymlyniad ymddangosiadol rhai o aelodau'r Gwyneddigion at newyddbethau Iolo oedd wrth wraidd penderfyniad Dafydd Ddu Eryri i gefnu ar y gymdeithas.

Dyma sut y canodd am Iolo:

Un Iolo cyn elor, a'i lonaid o linor,
Un ffug a belphegor, croes begor, cras bach;
Tywysog anhydyn, aneddau'r anoddyn,
Ni fedd ef un iolyn anwylach.

Mae'n waradwydd in' bellach ag ef wneyd cyfeillach;
Ond bwriwn heb eiriach bryf afiach o'n bro;
Pen-ceidwad y dyfnder a'i cymer ar fyrder,
I waelod ei seler i silio.

Gaer annwfn sy'n crynu, mae'r diawliaid yn credu,
Ond eto'n rhyfygu i bechu'n ddi baid;
Yn dilyn ffordd ben-gam ar argais mor ŵyrgam,
Dau waeth yw Ned William na'r diawliaid.


(Llythyr Thomas Roberts at Iolo Morganwg, 25 Mehefin 1805, NLW 21282E, rhif 440)
Gweinyddu