E N G L I S H

Rowland Williams (Hwfa Môn, 1823–1905)

Gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd oedd Hwfa Môn ac ef oedd yr Archdderwydd Cymraeg mwyaf dylanwadol cyn yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod ei dymor fel Archdderwydd, symudodd yr Orsedd o ymylon y digwyddiadau Eisteddfodol i'r canol, a datblygwyd y gwisgoedd a regalia hanesyddol godidog sydd wedi nodweddu'r ŵyl byth oddi ar hynny. Ystyrid ef gan rai yn ymgnawdoliad o gyfrinachau'r cylch gorseddol ac felly daeth â haen o urddas a hygrededd i'r Orsedd fel sefydliad.

Hwfa Môn yn y wisg a gynlluniodd Syr Hubert von Herkomer ar ei gyfer fel Archdderwydd

Hwfa Môn yn y wisg a gynlluniodd Syr Hubert von Herkomer ar ei gyfer fel Archdderwydd



Gweinyddu