E N G L I S H

William Owen Pughe (1759-1835)


William Owen Pughe

William Owen Pughe

Ganed y geiriadurwr a'r hynafiaethydd William Owen Pughe yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, a magwyd ef yn Egryn, Ardudwy. Adwaenid ef wrth yr enwau barddol Gwilym Owain, Gwilym Dawel, ac Idrison. Aeth i Lundain ym 1776 i weithio fel clerc i gyfreithiwr. Bu'n ymwneud â'r cymdeithasau Cymreig yn Llundain, ond bu'n fwyaf gweithgar gyda'r Gwyneddigion, gan sicrhau eu bod yn gwireddu eu rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol.

Cyfrannodd at Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) a The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7) yn arbennig. Yr oedd hefyd yn awdur toreithiog yn ei faes ei hun, sef geiriaduraeth a hynafiaethau. Ef oedd awdur neu olygydd The Heroic Elegies of Llywarç Hen (1794), The Cambrian Biography (1803), A Grammar of the Welsh Language (1803), A Welsh and English Dictionary (1803) a Cadwedigaeth yr iaith Gymraeg (1808).

Cyhoeddodd hefyd gyfrolau o farddoniaeth, Coll Gwynfa (1819) a Hu Gadarn (1822). Bu hefyd yn olygydd y cylchgronau Cambrian Register a'r Greal (1805–7).

Y mae William Owen Pughe, a fabwysiadodd y cyfenw Pughe ym 1806 wedi iddo etifeddu stad perthynas iddo o'r enw Rice Pughe, yn adnabyddus am ei syniadau ieithyddol unigolyddol. Tynnodd ar ei wybodaeth o destunau cynnar Cymraeg wrth ymhél ag orgraff yr iaith Gymraeg a cheisio rheoleiddio ei gramadeg. Gwnaeth hyn er mwyn ceisio dangos bod gan y Gymraeg berthynas agos ag iaith gyntefig a phatriarchaidd y ddynolryw. 'William Owen's scouring paper takes off the whole of the polish of the Welsh language' (NLW 13123B, t. 127) oedd sylw crafog Iolo yn hyn o beth.

Yn gyffredinol, priodolir syniadau cyfeiliornus Pughe ynghylch iaith a geirdarddiad i'w natur hygoelus. Credir mai'r hygoeledd hwn sy'n esbonio ei ymlyniad wrth y 'broffwydes' Joanna Southcott (1750–1814) o tua 1803 hyd ei marwolaeth ym 1814. Yn sgil ei deyrngarwch i Southcott, bu Iolo yn giaidd iawn wrth Pughe, a bathodd y ffugenw 'Dr Southcott' iddo yn ei sylwadau ar ragoriaeth De Cymru ac yn ei 'Plan of the Analytical Dissertation on the Welsh language by E.W.'


Yr oedd perthynas Iolo â Pughe hefyd yn gymhleth oherwydd yr elyniaeth a ddatblygodd rhwng Iolo ac Owen Jones (Owain Myfyr). Dyn rhadlon oedd Pughe, a thros y blynyddoedd ceisiai gyfamodi rhwng y ddau. Adwaenai bersonoliaeth Iolo i'r dim, ac ymagweddai'n sensitif tuag ato, gan ddefnyddio hiwmor tyner i geisio'i godi o ddyfnder iselder a'i ysbrydoli i ailafael yn ei waith. Rhygnodd cyfeillgarwch Iolo â Pughe ymlaen am ryw ddwy flynedd wedi i Owen Jones a Iolo ymddieithrio ym 1806. Serch hynny, chwerwi at Pughe a wnaeth Iolo yn y pen draw, a byddai'n achub ar bob cyfle i ddifrïo ei gymeriad a'i waith.
Admin