E N G L I S H

David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751-98)


Meddyg o Nantglyn, sir Ddinbych oedd David Samwell. Bu'n llawfeddyg ar fordaith Capten Cook i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd-Orllewin ym 1776-78 ac ar fordaith olaf Cook. Enillodd David Samwell rywfaint o enwogrwydd llenyddol pan gyhoeddwyd ei ddisgrifiad o lofruddiaeth Cook gan frodorion Hawaii, A Narrative of the Death of Captain James Cook (1786). Y mae'r gyfrol hon hefyd yn cynnwys sylwadau gwerthfawr o safbwynt anthropolegol ar effaith yr ymwelwyr Ewropeaidd ar iechyd brodorion Ynysoedd Sandwich.

Yr oedd Samwell yn ffigwr egnïol yng nghylchoedd Cymry-Llundain: ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas y Gwyneddigion ym 1770 a bu'n Ysgrifennydd i'r gymdeithas ym 1788 ac yn Is-lywydd ym 1797.

Bu'n aelod hefyd o'r Caradogion. Crisialodd awyrgylch llawen y Gwyneddigion yn ei gerdd The Padouca Hunt (1799) sy'n parodïo un o ddadleuon y gymdeithas ar un o bynciau llosg mwyaf pobogaidd y dydd, sef hanes Madog. Yr oedd iddo ochr ddifrifol hefyd a chyfrannodd erthygl ar fywyd a gwaith un o'i hoff feirdd, Huw Morus, i'r Cambrian Register ym 1796. Gan fod Samwell yn troi mewn cylchoedd gwladgarol Cymreig, cylchoedd radicalaidd a chylchoedd llenyddol Seisnig, y mae'n hawdd gweld paham fod Iolo yn ei edmygu a phaham yr apeliai jacobiniaeth barddol yr Orsedd ato yntau. Bu Samwell hefyd yn frwd iawn ei gefnogaeth i'r Gorseddau a gynhaliodd Iolo yn Llundain ac i'r Eisteddfodau a noddwyd gan y Gwyneddigion o 1789 ymlaen. Byddai Samwell yn darparu laudanum i Iolo a chyfrifid ef yn un o ddisgyblion barddol Iolo (NLW 4582). Er eu bod ar lawer cyfrif yn eneidiau hoff cytûn, nid oedd Samwell yn ddall i ffaeleddau Iolo, fel y dengys y sylw canlynol a wnaeth ynghylch barn Iolo ar 'Celtic Remains' Lewis Morris:

I really forget what I said on the subject, but I could say nothing but in general terms and those as second hand, for I know nothing about them except what I heard from Iorwerth ab Gwilym [Iolo Morganwg], who is on some occasions an outrageous Critic, and perhaps as much from whim as conviction.
(NLW 1808D, David Samwell at Walter Davies, 6 Gorffennaf 1793).


Admin