![]() Bywyd IoloDeunydd hunangofiannol (NLW 21387E ) Y Sylwebydd Amaethyddol a'r Ffermwr Y Bwytawr OpiwmYn ystod y ddeunawfed ganrif, gweithgarwch cyffredin a ffasiynol ddigon oedd cymryd lodnwm (laudanum), sef tintur o opiwm. Cydnabyddiaeth o hyn, efallai, yw'r ffaith mai 'To Laudanum' yw cerdd agoriadol Poems, Lyric and Pastoral (1792). Ymhlith y rhai a ddefnyddiai'r cyffur yr oedd Samuel Taylor Coleridge, George Crabbe a Thomas De Quincey. Fe fyddai David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) hefyd yn cymryd lodnwm yn aml a byddai'n rhoi peth i Iolo hefyd. Gwyddom i Iolo ddechrau cymryd lodnwm yn ei ieuenctid, a hynny er mwyn lleddfu peswch blinderus. Gweler NLW 21387E, rhif 6 ac NLW 213873E, rhif 10. Erbyn 1792 yr oedd Iolo yn orddibynnol ar y cyffur a hyn, ynghyd â'i drafferthion ariannol a phroffesiynol dybryd, oedd yn gyfrifol am y pwl enbyd o iselder a ddioddefodd yn ystod haf cythryblus y flwyddyn honno. Ym 1805, mynegodd yr athronydd David Williams (1738-1816) ei bryder nad oedd Iolo yn ddigon gofalus o'i iechyd: 'Your account of your own health is deplorable. Your diet & beverage are not sufficiently stimulating. You depend too much on opium, foxglove &c.' (Llythyr David Williams at Iolo Morganwg, 22 Awst 1805, NLW 21283E, rhif 552). Gwelir canlyniadau'r orddibyniaeth hon yn glir ar feddwl a gwaith Iolo. Yn ei hastudiaeth o effeithiau lodnwm ar ddychymyg awduron y cyfnod Rhamantaidd, Opium and the Romantic Imagination, dangosodd Alethea Hayter mai rhan o apêl lodnwm oedd ei fod yn cynnig iddynt noddfa rhag gofidiau yn ogystal â chreu ymdeimlad gorfoleddus, braf. Credir yn gyffredinol mai gweithio ar ddychymyg a oedd eisoes yn fyw a wnâi'r cyffur yn hytrach na chyfoethogi dychymyg distadl. Eto, paradocs sylfaenol lodnwm oedd ei fod, ar y naill llaw, yn rhoi'r argraff i'r rhai a'i cymerai fod eu meddyliau yn fwy clir ac yn fwy gwreiddiol o'r herwydd: fe'u galluogai i greu cysylltiadau creadigol annisgwyl, a rhoddai iddynt hefyd hunanhyder di-sigl yn eu gweledigaeth arbennig hwy. Ar y llaw arall, byddai opiwm yn amharu ar allu rhywun i ganolbwyntio ac, felly, un o'i ganlyniadau creulonaf oedd rhwystro'r bwytawr opiwm rhag gwireddu'r cynlluniau cyffrous a ysbrydolwyd ganddo yn y lle cyntaf. Mewn erthygl ar ddylanwad lodnwm ar Iolo Morganwg, dangosodd Geraint Phillips mai dihangfa rhag pwysau'r byd oedd y cyffur iddo ('Math o Wallgofrwydd: Iolo Morganwg, Opium a Thomas Chatterton', CLlGC, XXIX, rhif 4 (1996), 391–410). Ei ddibyniaeth ar lodnwm oedd yn gyfrifol am ffurf arbennig a rhyfeddol Barddas, yn ogystal ag ymrwymiad Meseianaidd Iolo i ddod â'i weledigaeth farddol i sylw byd anwybodus. Rhydd llythyrau Iolo at ei wraig Margaret (Peggy) ddarlun ingol o'i orddibyniaeth ar lodnwm ac o sgil-effeithiau erchyll y cyffur: histeria, pennau tost, meddwl dryslyd, anhunedd, euogrwydd llethol, parlys deallusol, ac anfodlondeb afresymol â safon ei waith ei hun (gweler, er enghraifft, lythyr Iolo at Margaret (Peggy) dyddiedig 27 Hydref 1792, NLW 21285E, rhif 812). Lodnwm hefyd a ddwysaodd ei duedd at baranoia a checru â chyfeillion a chydnabod. |