E N G L I S H

Cymdeithasau'r Cymry yn Llundain


Gwirionodd Iolo ar gymdeithasau'r Cymry yn Llundain a gyfunai rialtwch â brwdfrydedd gwladgarol iach at lenyddiaeth a hynafiaethau Cymru. Cafodd partneriaeth hir Iolo â hwy effaith hirdymor ar ei weledigaeth farddol gan iddynt ysgogi ei genedlgarwch Cymreig tanbaid yn ogystal â rhoi min ar ddimensiwn brogarol amlwg barddas. I ddechrau, cafodd y pwyslais a roddwyd ar Wynedd ddylanwad cadarnhaol ar Iolo, ac fe'i hysbrydolwyd ganddynt i ymfalchïo yn llenyddiaeth Morgannwg. Er enghraifft, ceisiodd sefydlu cymdeithas debyg ym Morgannwg, sef 'Brodoliaeth Beirdd Morganwg'. Ond, gydag amser, disodlwyd y weledigaeth ramantaidd o Forgannwg a goleddai Iolo yn ei ieuenctid gan ysfa gyson i brofi goruchafiaeth Morgannwg ar Wynedd.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion


Amlinellir amcanion pendant ar gyfer hybu'r iaith Gymraeg ac ymchwil i hynafiaethau Cymreig yng nghyfansoddiad dwyieithog y Cymmrodorion a gyhoeddwyd ym 1751:
Y mae gwedi ei blannu yn Naturiaeth Dynol-ryw, Serch a Thueddiad cryf tu ag at Wlad eu genedigaeth, a rhyw chwant canmoladwy i'w gwneuthur eu hunain yn gydnabyddus â gwir Hanes a Hynafiaeth y bobl y byddont o wir waed ac Achau yn hanfod o honynt . . . I'r diben yma y mae cryn nifer o wŸr wedi eu geni o fewn Tywysogaeth Cymru, sydd yn awr yn drigiannol yn Llundain ac o'i hamgylch, o wir gariad ar eu Gwlad, ac er parchedigaeth i enw'r Brutaniaid, ar fedr sefydlu Cymdeithas Gyffredinol i ymgyfarfod unwaith pob mis, tan wahanrhedol Alwedigaeth ac Enw Cymmrodorion (Neu Cyn-frodorion). (Gosodedigaethau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (Llundain, 1755), tt. 4, 10.)

Sefydlwyd y gymdeithas ym 1751 gan Richard Morris, brawd iau Lewis Morris, er mwyn darparu canolbwynt cymdeithasol i'r Cymry a drigai yn Llundain. Cefnogodd y gymdeithas sawl menter diwylliannol (gan gynnwys geiriadur Thomas Richards), ond methodd â gwireddu'r amcanion uchelgeisiol a amlinellwyd gan Lewis Morris yn y cyfansoddiad. Diddymwyd y gymdeithas ym 1787 ond fe'i hatgyfodwyd ym 1820 gan do newydd o genedlgarwyr diwylliannol a fynnai hybu'r mudiad newydd a drefnai'r eisteddfodau taleithiol.

Cymdeithas y Gwyneddigion


Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion ym 1770 gan y Cymry yn Llundain a gredai fod y Cymmrodorion yn rhy uchel-ael a diog. Yn y bôn, cymdeithas ddiwylliannol a dadlau oedd hi ar gyfer y sawl a oedd yn rhugl yn y Gymraeg, ac anogwyd aelodau hefyd i ohebu â'i gilydd ag eraill ynghylch hynafiaethau a materion diwylliannol. Gwisgai'r gymdeithas fantell ddiwylliannol y Cymmrodorion ond, diolch i nawdd ariannol hael Owen Jones, llwyddodd y Gwyneddigion i gyflawni mwy na'u rhagflaenydd. Ymhlith y cyhoeddiadau a gymhellwyd ac a noddwyd gan y Gwyneddigion ceir Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7) a'r cylchgrawn byrhoedlog Y Greal (1805-7). O 1789 ymlaen, bu'r Gwyneddigion yn frwd eu cefnogaeth i'r eisteddfod, a noddwyd eisteddfodau llwyddiannus ganddynt yn Y Bala (1793) ac yng Nghaerwys (1798).

Cymdeithas y Caradogion


Un o ganghennau Cymdeithas y Gwyneddigion oedd y Caradogion. Ffurfiwyd y gymdeithas yn ystod y 1790au a chynhelid y cyfarfodydd yn Y Crindy (the Bull's Head tavern), Walbrook. Cyfarfyddent yn wythnosol er mwyn cynnal dadleuon, a mynychid y cyfarfodydd gan Gymry di-Gymraeg hefyd. Oherwydd yr hinsawdd wleidyddol derfysglyd tybid bod rhai ohonynt yn gynllwynwyr bradwrus ac erlidiwyd hwynt gan yr awdurdodau.
Gweinyddu