E N G L I S H

John Walters ieu. (1760-89)


Un o feibion John Walters oedd John Walters ieu. Fe'i haddysgwyd yn lleol yn Ysgol Ramadeg Y Bont-faen. Aeth ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen, gan ennill gradd B.A. ym 1781 ac M.A. ym 1784. Bu hefyd yn Gymrawd yn y coleg ac yn is-lyfrgellydd yn Llyfrgell Bodley. Dangosodd gryn addewid fel ysgolhaig, a chredai ei gyfoeswyr ei fod yn deilwng i gwblhau gwaith Richard Thomas ar Ganu Llywarch Hen yn ogystal â golygu argraffiad o 'Celtic Remains' Lewis Morris.

Dychwelodd i Forgannwg ym 1783 fel athro yn ei hen ysgol yn Y Bont-faen, ond erbyn diwedd 1784 yr oedd yn Brifathro Ysgol Ramadeg Rhuthun a derbyniodd hefyd reithoriaeth Efenechdyd. Dengys ei lythyrau at Iolo fod ganddo anian ysgolhaig. Y mae'r llythyrau yn fyrrach ac yn fwy uniongyrchol na llythyrau ei frawd Daniel at Iolo ac y maent hefyd yn dangos yn glir fod John yn rhan o'r deffro diwylliannol Cymreig a gysylltir â'r Cymry yn Llundain. Cydweithiai ag Owain Myfyr ac Edward Jones (Bardd y Brenin), ac mae'n bur debyg y bu'n gyfryngwr rhyngddynt a Iolo. Addawodd John ran i Iolo yn y deffro diwylliannol hwnnw: 'I am now projecting, in concert with some learned friends, vast schemes for the restoration of the poetry, history and learning of Wales. If our schemes succeed, you are to bear a principal part in them' (LlGC 21283E, Llythyr 524, John Walters ieu. at Iolo Morganwg, 12 Rhagfyr 1782).

Datgelir yn ei lythyrau fod John yn wybodus ynghylch y traddodiad barddol Cymraeg ac ymagweddai'n feirniadol tuag at y farddoniaeth gynnar, Gramadeg Siôn Dafydd Rhys, a'r llawysgrifau Cymraeg. (LlGC 21283E, Llythyr 525, John Walters jr at Iolo Morganwg, 4 Mawrth 1783) Cyhoeddodd gyfrol o gerddi Saesneg, Poems, with Notes (1780). Dengys cerddi'r gyfrol ddylanwad beirdd megis John Denham, Alexander Pope a George Dyer. Gan fod y cerddi a gyhoeddodd Iolo yn ei gyfrol Poems, Lyric and Pastoral (1794) hefyd yn adlewyrchu'r un chwaeth lenyddol, gellid dadlau bod John a'i frawd Daniel yn ddylanwadau pwysig ar Iolo wrth iddo ganfod ei lais fel bardd yn yr iaith Saesneg.

Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill y mae Translated Specimens of the Welsh Poetry in English Verse, with some original pieces: and notes (1782), sef mydryddiadau Saesneg o gerddi Cymraeg a gyfieithwyd yn wreiddiol gan Evan Evans. Bu John hefyd yn gymorth di-ail i Edward Jones wrth i hwnnw baratoi ei gyfrol Musical and Poetical Relicks (1784) ar gyfer y wasg. Yn wir, yn ei dymer rai blynyddoedd yn ddiweddarach aeth Iolo mor bell â honni wrth William Meyler na chafodd John gydnabyddiaeth deilwng gan Fardd y Brenin [Cardiff 3.99, Iolo Morganwg at William Meyler, 1 Ionawr 1792]. Bu farw ym 1789 cyn gwireddu ei addewid ysgolheigaidd.
Admin