E N G L I S H

Daniel Walters (1762-87)


Mab i John Walters oedd Daniel Walters. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (1780-1), ond gadawodd heb radd i weithio fel athro cynorthwyol yn Norwich wrth draed Dr Samuel Parr. Dychwelodd i Forgannwg ym 1783 ar gais John, ei frawd hŷn, i fod yn athro yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Y flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn brifathro wedi i'w frawd symud i Ruthun.

Ceir yn nyddiaduron Daniel (Cardiff 4.304 & Cardiff 3.167) gipolwg ar gymdeithas Bro Morgannwg ac ar fywyd y teulu, yn ogystal â chofnod o ymweliadau Iolo Morganwg â'u cartref yn Llandochau yn ystod y blynyddoedd 1777-8. Er bod Daniel genhedlaeth yn iau nag Iolo, cafodd gryn ddylanwad ar dueddiadau llenyddol ei gyfaill hŷn. Er enghraifft, syniad Daniel oedd fod Iolo, John Walters, ei frawd, ac yntau yn gohebu â'i gilydd i drafod materion llenyddol (NLW 21283E, rhif 512, Daniel Walters at Iolo Morganwg, 27 Mehefin 1782). Ymddiddorai Daniel mewn barddoniaeth Saesneg ac ym 1780 cyhoeddwyd cerdd o'i eiddo, 'Landough, A Loco-descriptive Poem', fel atodiad i gyfrol ei frawd John, Poems, with Notes (1780).

Fel y dengys ei ymwneud â'r Gramadegyddion, barddoniaeth Gymraeg oedd prif ddiddordeb Iolo yn ystod ei ieuenctid, ac awgrymodd G. J. Williams mai Daniel Walters a enynnodd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth Saesneg. Yn sicr, anogodd Iolo i gyhoeddi ei gerddi a digiodd Daniel wrtho pan roes y gorau (dros dro) i farddoni ar ôl priodi (NLW 21283E, rhif 513, Daniel Walters at Iolo Morganwg, 1 Hydref 1782). Gallai Iolo drafod materion llenyddol cyfoes eraill gyda Daniel. Er enghraifft, y cerddi ffug a briodolwyd i Thomas Rowley ynghyd â'r ddadl ehangach ynghylch Thomas Chatterton.

I Iolo felly, yr oedd Daniel a'i frawd John yn gyfryngau gwerthfawr ar gyfer dysgu am ffasiynau llenyddol Seisnig cyfoes. Ond gweithiai'r dylanwad y ddwy ffordd. Syniai Daniel am Iolo fel athro barddol ac ymgynghorai'n aml ag ef ynghylch hanes a llên Cymru. Adar o'r unlliw oedd Daniel ac Iolo a byddai'r ddau'n cydfreuddwydio am orffennol rhamantaidd Morgannwg. Mewn llythyr at ei frawd John dywedodd Daniel fod Iolo ac yntau'n bwriadu adeiladu ogof (grotto) mewn man rhamantaidd addas yng nghoed y Crabla ger y Bewpyr, er mwyn yfed te yno.

Fodd bynnag, mewn cynllun bras o ragarweiniad Iolo i Poems, Lyric and Pastoral (1794), ceir awgrym fod cyfeillgarwch Iolo a Daniel wedi oeri a bod Daniel wedi ymddwyn yn frwnt tuag at Iolo yn ystod ei garchariad yng ngharchar Caerdydd (NLW 21387E, rhif 1). Bu farw Daniel ym 1787, ac y mae drafft arall o ragarweiniad Iolo i'w gyfrol o gerddi Saesneg yn sôn amdano yn garedig ac edmygus. (Gweler NLW 21387E, rhif 10)
Admin