E N G L I S H

Lewis Hopkin (1707/8–71)


Saer coed a gwydrwr oedd Lewis Hopkin, Hendre Ifan Goch, Morgannwg. Yr oedd hefyd yn fardd ac yn aelod blaenllaw o'r cylch barddol yn ucheldiroedd Morgannwg a adwaenid fel y 'Gramadegyddion'. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth, Y Fêl Gafod (1813), ar ôl ei ddyddiau, ac er nad oes sglein ar ei gerddi, maent yn dyst i'w ymrwymiad i gynnal a chadw traddodiad y mesurau caeth ym Morgannwg. Ef oedd athro barddol Edward Evan ac Iolo Morganwg. Cyhoeddodd Iolo farwnad i'w athro barddol, Dagrau yr Awen (1772) ac y mae'n sôn amdano fel ffigwr dylanwadol mewn deunydd hunangofiannol amrywiol a ddrafftiodd NLW 21387E, rhif 10. Serch hynny, ni ddatblygodd Lewis Hopkin yn ffigwr derwyddol o bwys yn Barddas, fel y gwnaeth John Bradford ac Edward Evan. Gwŷr a chanddynt orwelion llenyddol a diwylliannol eang oedd Lewis Hopkin a John Bradford. Cyfeiriodd Iolo sawl gwaith at eu diddordeb mewn llenyddiaeth Ladin a Ffrangeg, ac at y ffaith fod llenyddiaeth ac egwyddorion beirniadaeth lenyddol Seisnig gyfoes ar flaen eu bysedd. Fodd bynnag, defnyddiodd Iolo ehangder eu dysg a'u diwylliant yn ei frwydr bersonol ef rhwng De a Gogledd, oherwydd cyferbynnai orwelion eang y gwŷr hyddysg hyn o Forgannwg â gorwelion plwyfol honedig eu cyfoeswyr yng ngogledd Cymru.
Admin