E N G L I S H

Lewis Morris (1701-65)


Bardd, ysgolhaig a mapiwr oedd Lewis Morris. Yr oedd hefyd yn llythyrwr toreithiog, ac ef a'i frodyr (Richard, William ac am gyfnod byr, John) oedd canolbwynt cylch gohebol Morrisiaid Môn. Ganed Lewis, yr hynaf o'r brodyr, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd, Môn, a'i fagu ym Mhentre-eiriannell. Ym 1723 gweithiodd fel mesurwr tir i Owen Meyrick ar ei ystad ym Modorgan, Môn. Ym 1729 aeth i weithio fel swyddog tollau yng Nghaergybi a Biwmares, ac yna yn Aberdyfi. Ym 1744 comisiynwyd ef i wneud arolwg o gyfoeth mwynol Cwmwd Perfedd, a daeth yn ddirprwy-stiward maenorydd y Goron yng Ngheredigion ddwy flynedd yn ddiweddarach. O 1746 hyd 1757 trigai yng Ngalltfadog, ac wedi hynny ym Mhenbryn, Goginan. Fel ysgolhaig, ymddiddorai yn hanes a llenyddiaeth gynnar Cymru. Ei weledigaeth ef a'i gylch oedd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ac felly ystyrid ef yn un o brif hyrwyddwyr mudiad Celtaidd y ddeunawfed ganrif. Bu'n gohebu â'r hanesydd Thomas Carte a'r hynafiaethydd Samuel Pegge, ac mewn cylchoedd Cymreig a Seisnig fe'i cyfrifid yn awdurdod cydnabyddedig ar yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth gynnar a'i hynafiaethau. Fel llenor, un o'i brif amcanion oedd darparu corff o lenyddiaeth ddifyr yn yr iaith Gymraeg. I'r perwyl hwn, cyhoeddodd ddetholiad o ryddiaith a barddoniaeth ysgafn ar ei wasg ei hun yng Nghaergybi, sef Tlysau yr Hen Oesoedd (1735). At hynny, y mae ei lythyrau a'i bapurau yn llawn cerddi a thraethiadau rhyddiaith a luniwyd ar batrwm gweithiau Saesneg gan Jonathan Swift a Tom Brown. Eu diben, yn aml, oedd diddanu cyfeillion. Bu hefyd yn gweithredu fel athro barddol i Goronwy Owen, Edward Richard, ac Evan Evans, a chyhoeddwyd cyfran o'i gerddi yn Y Diddanwch Teuluaidd (1763).

Ni chyfarfu Iolo erioed â Lewis Morris, ond bu'n pori ym mhapurau'r Morrisiaid yn y Welsh Charity School yn Llundain ac o ganlyniad cafodd Lewis Morris ddylanwad aruthrol ar ei yrfa a'i feddylfryd. Coleddent yr un agwedd wladgarol at hynafiaethau a gwelir sawl cyfochredd arall rhwng eu gyrfaoedd. Er enghraifft, yr oedd Iolo hefyd yn barddoni ac yn ei gylchgrawn arfaethedig, 'Dywenydd Morganwg', ceisiodd efelychu camp Lewis Morris yn Y Diddanwch Teuluaidd. Ond eiddigeddai Iolo at y sylw a ddenai Lewis Morris, hyd yn oed wedi ei farwolaeth, a theimlai'n rhwystredig na chydnabuwyd ei awdurdod ef ei hun ar farddoniaeth a hynafiaethau Cymreig - ac yntau'n un o ddisgynyddion uniongyrchol y Derwyddon! Porthwyd atgasedd Iolo at Lewis Morris gan straeon a glywsai amdano gan Evan Evans. Yn ei dro, tyfodd yr atgasedd hwn yn ffactor bwysig yn y tyndra amlwg rhwng de a gogledd Cymru sy'n nodweddu rhagfarnau a gweledigaeth farddol Iolo:
The late Lewis Morris had largely swallowed the North-Walian infatuation, and in some of his letters to Mr Edward Richards, insists upon it that N.Wales for ages had nothing in Poetry inferior to the Alliterative Poetry of the 24 metres, (See Camb. Regr. Vol II pp. 542, 544, &c) and that Song writing was a modern thing not much if any thing earlier than the time of Charles the II, such ignorance is astonishing, such a boast is just such another as for a nation to plume themselves on never having produced any thing in Poetry inferior to Acrostic, Anagram, Charade, Rebus, Enigma, &c, &c, for many of the 24 metres are still more ridiculous than any of the above kinds of poetry very often greatly admired by greatly vulgar minds, who neither see or feel anything of nature. This N.Walian boast is nothing less than a boast that they never (at least since the days of Gruffudd ap Cynan) had any natural and rational Poetry. National and local prejudices and infatutation blind the human mind as much, if not more than anything else. (NLW 13138A, tt. 80-1)

Gweler hefyd ei sylwadau cas am Geredigion Lewis Morris's sarcasm on Cardigan
Gweinyddu