E N G L I S H

John Bradford (1706-85)


Gwëydd, pannwr a lliwydd oedd y bardd John Bradford. Adwaenid ef hefyd fel Siôn Bradford a byddai Iolo yn cyfeirio ato wrth yr enw barddol Ieuan Tir Iarll. Perthynai John Bradford i'r Gramadegyddion, y cylch o feirdd a oedd yn weithgar ym Mlaenau Morgannwg, ac y mae Iolo yn ei arddel ymhlith ei athrawon barddol [LlGC 21387E, rhif 13]. Cydymffurfia â'r patrwm cyffredin: Anghydffurfiwr ydoedd yn ogystal â chrefftwr. Yr oedd yn ŵr dysgedig, yn gyfarwydd â llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol Seisnig gyfoes, ac yn hyddysg yn y traddodiad barddol Cymraeg. Bu hefyd yn casglu llawysgrifau. Tanysgrifiodd i gyfrol Jenkin Jones, Llun Agrippa (1723) ac i Diddanwch Teuluaidd (1763) Lewis Morris, a chanodd englynion i gyfarch Theophilus Evans pan gyhoeddwyd ail argraffiad Drych y Prif Oesoedd (1740). Yr oedd yn aelod gohebol o'r Cymmrodorion a bu'n gohebu â Lewis Morris a William Wynn, Llangynhafal.

Er nad oedd ei waith prydyddol o'r radd flaenaf, ac er na phrisid ei ddylanwad y tu hwnt i ffiniau daearyddol Morgannwg, rhaid peidio â diystyru gweithgarwch Bradford a'i gyd-feirdd wrth drafod dadeni diwylliannol Cymru'r ddeunawfed ganrif. Tueddai cylchoedd y Morrisiaid a'r Cymry yn Llundain i ddibrisio gwaith a chyfraniad John Bradford a'i debyg, felly, aeth Iolo ati'n fwriadol i droi'r fantol o'u plaid. Trawsffurfiwyd John Bradford yn ffigwr pwysig yn yr olyniaeth farddol a greodd Iolo ar gyfer barddas. Yr oedd parch Iolo tuag ato yn gwbl ddiffuant, ac felly hefyd ei ymgais i sicrhau y derbyniai gydnabyddiaeth genedlaethol haeddiannol. Mewn un llawysgrif, nododd yn ddiamwys, 'Siôn Bradford! Ieuan Tir Iarll! Thy name must be remembered' (LlGC 13097B, t. 151). Cysylltir enw John Bradford yn aml â ffugiadau Iolo a honnodd iddo godi'r deunydd canlynol o lawysgrifau ei athro barddol: Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain, Coelbren y Beirdd, 'Llafar Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' a llawer iawn o drioedd ffug. Priodolodd Iolo nifer o gerddi serch o'i eiddo ei hun i Bradford hefyd. Nid yw barddoniaeth ddilys Bradford na'r llythyrau prin o'i eiddo sydd wedi goroesi yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at barddas a hanes derwyddol Morgannwg. Fodd bynnag, llwyddodd Iolo i gamarwain sawl cenhedlaeth, ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yr oedd John Morris-Jones yn amau bod John Bradford wedi cydgynllwynio â Iolo.
Admin