E N G L I S H

Syr Ifor Williams (1881–1965)

Un o ddisgyblion Syr John Morris-Jones oedd Ifor Williams. Bu'n ddarlithydd ac yna yn Athro yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Trawsffurfiodd y dull traddodiadol o astudio llenyddiaeth ganoloesol yng Nghymru trwy gyhoeddi, am y tro cyntaf erioed, olygiadau ysgolheigaidd dibynadwy o farddoniaeth y cyfnod. Yn hyn o beth, cyfrannodd at y feirniadaeth ar waith a ffugwaith Iolo Morganwg.
Admin