E N G L I S H

William John Roberts (Gwilym Cowlyd, 1828–1904)

Cyhoeddwr, llyfrwerthwr a bardd oedd Gwilym Cowlyd. Datblygodd ei ddehongliad ei hun o dderwyddiaeth farddol Iolo Morganwg. Cafodd ei ddadrithio gan Anglicaniaeth a materoliaeth mudiad yr Eisteddfod Genedlaethol ac, o ganlyniad, datblygodd ei ŵyl ei hun, sef Arwest Farddonol Glan Geirionnydd. Er bod llawer o bobl yn cytuno â'i feirniadaeth o'r Eisteddfod, anghofiwyd ei etifeddiaeth arbennig ef a bu farw yn ddyn tlawd.

Admin