E N G L I S H

Gramadegyddion


Cylch o feirdd a oedd yn gyfrifol am y deffro diwylliannol ym Morgannwg yn ystod y ddeunawfed ganrif oedd y Gramadegyddion. Megis eu cymheiriaid yng ngogledd Cymru a Llundain, dibynnent ar y cyfrolau a gyhoeddwyd gan y Dyneiddwyr Cymreig a diwygwyr diwylliannol cyfoes er mwyn adfer eu hetifeddiaeth farddol. Dewiswyd yr enw Gramadegyddion ganddynt er parch at y gramadegau barddol argraffedig a oedd wedi caniatáu iddynt wireddu'r bwriad hwn: Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Britannicae . . . Rudimenta (1592) gan Siôn Dafydd Rhys, Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth (1593) gan William Midleton a Grammadeg Cymraeg (1728) Siôn Rhydderch. Trigai'r rhan fwyaf o'r Gramadegyddion yn ucheldir Morgannwg a chynhalient eisteddfodau achlysurol ar lun a delw yr eisteddfodau a gynhelid yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Yn eu plith ceir gwŷr a fyddai, ymhen hir a hwyr, yn chwarae rhan flaenllaw yng ngweledigaeth farddol Iolo: John Bradford o'r Betws, Rhys Morgan o Bencraig-nedd, Edward Evan o Aberdâr, Dafydd Nicolas o Aberpergwm, ac athro barddol Iolo, Lewis Hopkin o Landyfodwg. At y rhain gellid ychwanegu Dafydd Hopcyn o'r Coety, Dafydd Thomas o Bandy'r Ystrad ac, o bosibl, Wil Hopcyn o Langynwyd, bardd a ddaeth yn ffigwr rhamantaidd mewn llên gwerin lleol. Yr oedd nifer o'r dynion hyn yn grefftwyr ac yn Anghydffurfwyr, ac yn ddiweddarach cyfeiriai Iolo atynt fel cylch o ryddfeddylwyr a adwaenid fel 'Gwŷr Cwm y Felin'. Ni feithrinwyd diddordebau barddol, hynafiaethol, athronyddol a diwylliannol Iolo mewn gwagle. Fel eu cymheiriaid yng ngogledd Cymru, gwyddai'r Gramadegyddion am rym y wasg argraffu ac aethant ati i gyhoeddi eu gweithiau barddol a diwinyddol. Yn hyn o beth gosodwyd patrwm i Iolo a chymhelliad cryf i gyhoeddi ei waith ei hun.
Gweinyddu