E N G L I S H

Evan Evans (1731-88)


Offeiriad, ysgolhaig a bardd oedd Evan Evans a adwaenid wrth yr enwau barddol Ieuan Fardd ac Ieuan Brydydd Hir. Brodor o blwyf Lledrod, Ceredigion, ydoedd ac un o ddisgyblion disgleiriaf Edward Richard yn ysgol Ystradmeurig yn yr un sir. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Merton, Rhydychen, rhwng 1751 a 1754. Ar ôl graddio, urddwyd ef yn offeiriad a chafodd yrfa grwydrol mewn amryw blwyfi yng Nghymru a Lloegr. O ran anian, tueddai at iselder, a chredir iddo unwaith geisio ei ladd ei hun. Yr oedd ganddo enw hefyd am ddiota a hyn, ynghyd â'i feirniadaeth gyhoeddus ar Seisnigrwydd esgobion Cymru, a lesteiriodd ei yrfa eglwysig. Daeth Evan Evans i sylw Lewis Morris yn ystod ei arddegau, a Morris a'i hyfforddodd fel bardd caeth ac a ddysgodd iddo'r grefft o gopïo llawysgrifau.

Ei brif gymwynasau i ysgolheictod Cymraeg y cyfnod oedd ailddarganfod testunau cynnar pwysig ('Y Gododdin' gan Aneirin a barddoniaeth Taliesin), a chyhoeddi detholiad o farddoniaeth gynnar Gymraeg a thraethawd gwerthfawr ar y traddodiad barddol Cymraeg, 'Dissertatio de Bardis', yn y gyfrol awdurdodol Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards (1764). Enillodd gryn glod yn sgil y gyfrol hon a daeth i gysylltiad ag arweinwyr y mudiad Celtaidd yn Lloegr, sef Daines Barrington, Thomas Gray a Thomas Percy. O ganlyniad i'r cysylltiadau hyn, ystyrir Evan Evans yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y mudiad newydd-glasurol a'r mudiad Rhamantaidd yng Nghymru. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn ei fro enedigol a gorfu iddo ddibynnu ar haelioni eraill i'w gynnal. Rhwng 1771 a 1778 derbyniodd incwm blynyddol oddi wrth Syr Watkin Williams Wynn, Wynnstay. Yn ddiweddarach cafodd bensiwn gan yr hynafiaethydd Paul Panton, Plas Gwyn, ac wedi ei farwolaeth trosglwyddwyd llawysgrifau Evans i ofal Paul Panton.


Darlun gan Iolo o Wern y Clepa. Bu yno yng nghwmni Evan Evans

Darlun gan Iolo o Wern y Clepa. Bu yno yng nghwmni Evan Evans

Yr oedd Iolo yn edmygu gallu Evan Evans fel bardd ac yn synio amdano fel pennaf awdurdod ar y traddodiad barddol Cymreig. Yn wir, yr oedd yn ddylanwad pwysig ar syniadau Iolo am y traddodiad barddol. Y mae'r unig lythyr gan Iolo at Evans i oroesi yn rhoi syniad da i ni o natur eu diddordebau: y Rhufeiniaid ym Mhrydain, Dafydd ap Gwilym, mydryddiaeth Gymraeg, cyfnodau yn natblygiad y traddodiad barddol Cymraeg, a derwyddiaeth. (NLW 2131E, rhif 11, Iolo Morganwg at Evan Evans, 1 Ebrill 1779). Gellir tybio, felly, yn y cyfnod cynnar hwn, fod nifer o syniadau Iolo am y traddodiad barddol Cymraeg yn gyffredinol wedi eu meithrin drwy sgwrsio a gohebu ag Evans. At hynny, y mae cerdd Saesneg Evans, 'Love of our Country' (1772), yn cyflawni'r un bwriad ag a wnaeth gweledigaeth farddol Iolo yn ddiweddarach, sef amddiffyn enw da Cymru a'r Cymry yn erbyn rhagfarnau'r Saeson.

Treuliodd Iolo beth amser yng nghwmni Evans ddiwedd y 1770au a dechrau'r 1780au a cheir awgrym gan Iolo fod Evans yn aelod o'r gymdeithas Gymraeg y ceisiodd ei sefydlu ym Morgannwg tua 1780, sef Brodoliaeth Beirdd Morganwg. Clywsai straeon am Lewis Morris ac Edward Jones gan Evans, straeon a oedd yn ymwneud yn bennaf ag amodau casglu 'Celtic Remains', anwybodaeth Lewis Morris o'r iaith Ladin ynghyd â'i anian dwyllodrus NLW 13118B, t. 105. Lliwiwyd barn Iolo am y ddeuddyn hyn gan straeon a glywsai gan Evans. Ym 1813 honnodd Iolo ei fod wedi ymweld â Gwernyclepa, cartref Ifor Hael, un o noddwyr pennaf Dafydd ap Gwilym, yng nghwmni Evans. Braidd yn eiconoclastig yw sylwadau Iolo, fodd bynnag, oherwydd honnodd nad oedd gan Evans fawr o ddiddordeb yn yr olion, er gwaethaf y ffaith mai ef oedd cyfansoddwr yr englynion enwog 'I Lys Ifor Hael' NLW 21285E Llythyr 895, Iolo Morganwg at Taliesin Williams, 16-17 Awst 1813. Yn hyn o beth, dyma enghraifft ragorol o'r oriogrwydd a oedd yn rhan annatod o bersonoliaeth Iolo. Er iddo gopïo deunydd o lawysgrifau Evans, ac er iddo fanteisio ar ddyfnder ei wybodaeth ysgolheigaidd, gallai Iolo fod yn feirniadol iawn o'i gyfaill hefyd. Bryd arall disgrifiodd Lewis Morris, Richard Morris, Evan Evans a Goronwy Owen fel 'the would-be antiquarian Junto' a oedd wedi gosod 'Celtic Remains' Lewis Morris ar bedestal - pedestal anhaeddiannol, yn ôl Iolo. Bu'n feirniadol iawn hefyd o iaith anhyblyg a gwendidau Evans fel copïydd dibynadwy.

Gweinyddu