![]() Pobl IoloEdward 'Celtic' Davies (1751-1831) Evan Davies (Myfyr Morganwg, 1801-88) Walter Davies (Gwallter Mechain, 1761–1849) T C Evans (Cadrawd, 1846-1914) Owen Jones (Owain Myfyr, 1741–1814) Syr John Morris Jones (1864-1929) Cymdeithasau'r Cymry yn Llundain William Owen Pughe (1759-1835) William John Roberts (Gwilym Cowlyd, 1828-1904) David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751–98) David Thomas (Dafydd Ddu Eryri, 1759–1822) Griffith John Williams (1892-1963) John Williams (Ab Ithel, 1811-62) Edward Jones (1752-1824)Telynor a hynafiaethydd o Landderfel, sir Feirionnydd, oedd Edward Jones. Symudodd i Lundain tua 1775. Bu'n delynor i Siôr, Tywysog Cymru, ac adwaenid ef fel 'Bardd y Brenin' pan goronwyd y tywysog yn Siôr IV. Adlewyrchir ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru a'r traddodiad barddol Cymreig yn ei gyhoeddiadau, sef The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), The Bardic Museum (1802) a Hen Ganiadau Cymru (1820).Casâi Iolo Edward Jones. Bathodd yr enwau 'Humstrum Jones' a 'Ned Taro Tant' amdano a gwawdiai ei safle breintiedig yn y llys brenhinol: 'One Jones, who most curiously nicknames himself Bard and Harpist to the Prince of Wales. Poor Prince, how many coxcombs are there of this that and t'other thing, to the Prince of Wales, to the King &c- what impudence!' (LlGC 13108B, t. 114) Teimlai Iolo yn chwerw tuag at Edward Jones am nad oedd wedi llawn gydnabod cynhorthwy ei gyfaill John Walters wrth lunio The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards. Hefyd, cipiwyd papurau Iolo gan yr awdurdodau wedi i Jones hysbysu'r Cyfrin Gyngor fod Iolo yn perthyn i gymdeithas a chanddi duedd at deyrnfradwriaeth. (Llythyr Iolo Morganwg at Edward Jones, 1 Ionawr 1794) Yr oedd Iolo hefyd yn eiddigeddus o'r sylw a'r clod a enillodd Edward Jones fel hynafiaethydd. Nid oedd Jones yn cyd-fynd yn llwyr â ffug-dderwyddiaeth y cyfnod a siomwyd Iolo pan hepgorodd Jones syniadau Iolo o'i gyfrolau ef ei hun. Ceir yr hanes mewn llythyr gan Iolo at ei wraig, Margaret (Iolo Morganwg at Margaret (Peggy) Williams, 27 Awst 1794). Yr oedd Edward Jones yn bresennol yng Ngorsedd Bryn y Briallu ym mis Medi 1792, ond bu Iolo yn gyndyn i ganiatáu lle blaenllaw iddo mewn gorseddau dilynol. |