![]() Pobl IoloEdward 'Celtic' Davies (1751-1831) Evan Davies (Myfyr Morganwg, 1801-88) Walter Davies (Gwallter Mechain, 1761–1849) T C Evans (Cadrawd, 1846-1914) Owen Jones (Owain Myfyr, 1741–1814) Syr John Morris Jones (1864-1929) Cymdeithasau'r Cymry yn Llundain William Owen Pughe (1759-1835) William John Roberts (Gwilym Cowlyd, 1828-1904) David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751–98) David Thomas (Dafydd Ddu Eryri, 1759–1822) Griffith John Williams (1892-1963) John Williams (Ab Ithel, 1811-62) Edward Evan (1716-98)Un o athrawon barddol Iolo Morganwg oedd Edward Evan, bardd o'r Llwyn-coed, ger Aberdâr. Yr oedd yn ffigwr pwysig yn natblygiad diwylliannol a chrefyddol Iolo a dyma paham, efallai, y rhoddodd Iolo le blaenllaw iddo yn ei weledigaeth farddol, Barddas. Bu'n brentis saer coed a gwydrwr dan ofal y bardd Lewis Hopkin, Hendre Ifan Goch. Ariad ydoedd o ran ei grefydd, ond tua diwedd ei oes gwyrodd at Undodiaeth. Ym 1772 fe'i hordeiniwyd yn weinidog a bu'n gweinidogaethu yn Hen Dŷ Cwrdd Aberdâr tan 1796. Fel crefftwr ac Ymneilltuwr y mae Edward Evan yn cydymffurfio â'r patrwm cyffredin a welir ymhlith beirdd Morganwg ei gyfnod - 'Y Gramadegyddion'. Gan iddo hefyd gyfieithu cerddi gan Alexander Pope, Samuel Butler, Isaac Watts a'r Esgob Horne i'r Gymraeg, tybed hefyd nad oedd Edward Evan yn ddylanwad ffurfiannol ar chwaeth Iolo mewn barddoniaeth Saesneg yn ogystal â barddoniaeth gaeth Gymraeg? Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd barddoniaeth Edward Evan gan ei fab, Rhys Evans. Caniadau Moesol a Duwiol (1804) oedd teitl yr argraffiad cyntaf, ond mae argraffiadau dilynol yn dwyn y teitl Afalau'r Awen (1816; 1837; 1874). Adwaenid Edward Evan wrth yr enwau barddol Iorwerth ab Ioan ac Iorwerth Gwynfardd Morganwg. Dyma'r Edward Evan hanesyddol ond, yng ngweledigaeth farddol Iolo, trawsffurfiwyd ef yn ffigwr o bwys yn yr olyniaeth dderwyddol honedig a oedd yn sail i Farddas. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn ffasiynol The Gentleman's Magazine ym 1789, pan oedd Iolo yn ceisio denu tanysgrifwyr ar gyfer ei gyfrol o farddoniaeth Saesneg, honnodd mai Edward Evan ac yntau oedd yr unig feirdd dilys yn yr olyniaeth hon. Gwnaeth Iolo honiadau tebyg yn y deunydd ar Farddas a gyhoeddwyd yn The Heroic Elegies of Llywarç Hen (1792). Er bod Edward Evan wedi cymryd rhan mewn sawl Gorsedd a gynhaliodd Iolo ym Morgannwg, nid yw ei farddoniaeth yn awgrymu ei fod yn ei weld ei hun yn yr un goleuni. Ond nid rhodres yn unig a gymhellodd Iolo i wneud honiadau ysgubol o'r fath. Fel aelod o'r Gramadegyddion a ddeuai at ei gilydd mewn eisteddfodau a chyrddau prydyddion yn Llantrisant a'r Cymer, yr oedd Edward Evan yn rhan o'r dadeni diwylliannol ym Morgannwg, ac felly yn rhan o'r dadeni diwylliannol Cymreig ehangach a gysylltir â gweithgarwch cymdeithasau'r Cymmrodorion a'r Gwyneddigion, ac â'r gogleddwr Lewis Morris yn arbennig. Oherwydd ei fod yn teimlo bod angen dangos dyledus barch at feirdd a llenorion Morgannwg, aeth Iolo ati i ddyrchafu Edward Evan ac eraill: y Parchedig Edward Ifan o Aberdar ym Morganwg a ddylai gael ei gofio. Nid llai ei ddysgeidiaeth ef nag eiddo Ieuan Bradford a Lewys Hopcin ac yn ben ar y cwbl nid neb yn eu gwlad na hoes yn [haeddu] gwell gair amdanynt am bob campau da a cymmydogaidd a Theuluaidd nag yr oeddynt hwy. (NLW 13141A, t. 131) |