E N G L I S H

John Williams (Ab Ithel, 1811–62)

Offeiriad, hynafiaethydd ac ysgolhaig oedd Ab Ithel, ac yr oedd un o brif hyrwyddwyr cyfundrefn farddol-dderwyddol Iolo Morganwg. Ef a fu'n gyfrifol am drefnu Eisteddfod Llangollen (1858) lle y cynhaliwyd sawl seremoni Orseddol. Wedi peth beirniadaeth ddechreuol, daeth yr eisteddfod hon yn batrwm ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymhlith cyhoeddiadau niferus Ab Ithel y mae'r ddwy gyfrol arloesol Barddas; or, a Collection of Original Documents, Illustrative of the Theology, Wisdom, and Usages of the Bardo-Druidic System of the Isle of Britain (1862 a 1874), gwaith sy'n parhau i fod yn gyfeirlyfr pwysig i grwpiau newydd-dderwyddol modern.


Admin