E N G L I S H

Pobl Iolo Morganwg


'You were, I presume, in good spirits and kept the table in a roar by your effusions'

(Llythyr Gwallter Mechain at Iolo Morganwg, 24 Gorffennaf 1810, NLW 21280E, rhif 86)


Tystiodd Walter Davies (Gwallter Mechain) fod Iolo Morganwg yn gwmni da, felly nid oes ryfedd fod ei gylchoedd cymdeithasol yn hynod eang ac amrywiol. Ceir yn eu plith drigolion Morgannwg, beirdd a chasglwyr llawysgrifau ledled Cymru, y Cymry yn Llundain, hynafiaethwyr Cymreig a Phrydeinig, ynghyd ag amryw radicaliaid ac Undodwyr. Yn y bôn, y mae'r bobl a adwaenai yn adlewyrchu'r meysydd amrywiol yr ymddiddorai Iolo ynddynt.

Yma, crynhoir manylion bywgraffyddol unigolion sy'n eu hamlygu eu hunain ym mywyd ac etifeddiaeth Iolo ac amlinellir hefyd natur eu perthynas neu eu hymwneud ag Iolo a'i syniadau.
Admin