E N G L I S H

Thomas Stephens

Fferyllydd yn y Stryd Fawr, Merthyr Tudful, oedd yr Undodwr Thomas Stephens ac un o gyd-sylfaenwyr y llyfrgell gyhoeddus yno. Gwobrwywyd ei draethodau yn yr Eisteddfod ar sawl achlysur a dangoswyd parchedig ofn tuag ato fel beirniad llym. Ar sail ei wybodaeth ddofn ynghylch llenyddiaeth Gymraeg, llwyddodd i gymhwyso technegau beirniadaeth destunol at rai o greadigaethau Iolo. Er enghraifft, tybiai fod yr wyddor farddol yn perthyn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Enillodd ei gyfrol Literature of the Kymry (1848) gryn fri rhyngwladol.



Admin