E N G L I S H

T. C. Evans (Cadrawd, 1846–1914)

Hynafiaethydd, awdur a bardd oedd Cadrawd. Ef, o bosibl, oedd etifedd mwyaf dylanwadol Iolo Morganwg yn ne Cymru. Yr oedd ei bersonoliaeth a'i ysgrifau ar bynciau Ioloaidd mor hudolus fel y cymharwyd ef â'i arwr ar fwy nag un achlysur:

Ychydig flynyddoedd yn ol bu son ym Maesteg am gael Pageant yn Llangynwyd. Un noson buom wrthi am oriau yn trefnu'r dramatis personae. Nid oedd ond un farn parthed Cadrawd, efe oedd Iolo Morgannwg, heb ail iddo o Gaergybi i Gaerdydd . . . Ie! Iolo Morgannwg, – dyna Cadrawd i'r dim, un â'i fryd ar hen bethau Cymreig, a'i bocedau bob amser yn llawnion o ddalennau'r hynafiaethydd. Disgynnodd mantell Iolo ar ysgwyddau'r bachgen aned yn ymyl beddau'r 'Ferch o Gefnydfa', Wil Hopcyn, a Samuel Jones, Brynllywarch.

Some years ago there was talk in Maesteg of having a Pageant in Llangynwyd. One night we were at it for hours organizing the dramatis personae. There was but one opinion concerning Cadrawd, he was Iolo Morganwg, without a match from Holyhead to Cardiff . . . Yeah! Iolo Morganwg, – that is Cadrawd to the last, one with his mind bent on the old Welsh things, and his pockets at all times full of the pages of the antiquary. Iolo's mantle fell on the shoulders of the boy who was born near the graves of the 'Girl of Cefn Ydfa', Will Hopcyn and Samuel Jones, Brynllywarch.
Gweinyddu