E N G L I S H

Evan Davies (Myfyr Morganwg, 1801–88)

Myfyr Morganwg

Gwneuthurwr clociau o Bontypridd oedd Myfyr Morganwg. Wedi marwolaeth Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo) hawliodd y teitl Archdderwydd Cymru ('Archdruid of Wales') iddo ef ei hun. Yr oedd yn gyfrifol am ddatblygu syniadau barddol-derwyddol Iolo Morganwg trwy dynnu ar gredoau esoterig ffasiynol o'r Dwyrain pell. Pethau dadleuol iawn oedd ei gyfraniadau niferus i gylchgronau Cymreig a'i orseddau ar y Maen Chwŷf, a chyhuddwyd ef o baganiaeth. Cynhaliwyd Gorseddau'r Maen Chwŷf unwaith y flwyddyn rhwng 1848 a'i farwolaeth ym 1888.


Admin