E N G L I S H

Elijah Waring (c.1788-1857)

Newyddiadurwr oedd Elijah Waring. Symudodd o Hampshire i Gastell-nedd. Ef oedd yn gyfrifol am y cyhoeddiad byrhoedlog The Cambrian Visitor. Yr oedd yn gyfaill agos i Iolo Morganwg yn ei henaint, a mwynhâi Iolo ailadrodd hanesion ei fywyd wrth ei gyfaill ifanc. Enillodd Waring gryn enwogrwydd am ei gofiant dylanwadol o Iolo, Recollections and Anecdotes of Edward Williams, a gyhoeddwyd mewn cyfres yn y Cambrian ym 1827 ac fel cyfrol annibynnol ym 1850.



Gweinyddu