E N G L I S H

Edward 'Celtic' Davies (1751–1831)

Rheithor Llandeilo Ferwallt (Bishopston), ym Morgannwg, hynafiaethydd ac awdur oedd Edward Davies. Daeth yn drwm o dan ddylanwad y ddadl ynghylch Ossian. Cyhoeddodd ddwy gyfrol ar dderwyddiaeth a seiliwyd ar waith hynafiaethwyr Saesneg a ffugiadau Iolo: Celtic Researches (1804) a The Mythology and Rites of the British Druids (1809). Cafodd y ddwy gyfrol dderbyniad da gan y cyhoedd. O ganlyniad i'w feirniadaeth ar ddeunydd Iolo, bu'r berthynas rhyngddynt yn bur stormus ar brydiau.

Gweinyddu