E N G L I S H

Gohebiaeth Iolo Morganwg


"These letters offer a human face, warts and all, to the man, as well as constituting an invaluable part of his literary and historical legacy"
(Geraint H. Jenkins (ed.), Rattleskull Genius, p. 7)


Bu Iolo'n gohebu'n gyson rhwng 1770 a'i farwolaeth ym 1826 a chedwir tua 1400 o lythyrau yng nghorff ei gasgliad.
 Llythyr Owen Jones (Owain Myfyr at Iolo Morganwg

Llythyr Owen Jones (Owain Myfyr at Iolo Morganwg

Rhyw draean ohonynt (tua 430 llythyr) sydd yn ei law ei hun a Saesneg yw iaith y mwyafrif helaeth ohonynt. Tua 6% yn unig o'r llythyrau a luniwyd yn Gymraeg neu sy'n cynnwys elfen o Gymraeg ac, ar y cyfan, gellir dyddio'r rhain i'r 1770au a'r 1780au pan oedd Iolo'n gohebu â beirdd sir Forgannwg ac aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain. Y mae llythyrau Cymraeg Siencyn Morgan o Lantrisant ym 1771 ac Owen Jones (Owain Myfyr) o Lundain ym 1782 yn darlunio'r cyfnodau hyn yn berffaith.

I'r hanesydd Jürgen Habermas, 'canrif y llythyr' oedd y ddeunawfed ganrif, ar sail swm a sylwedd y llythyrau a gylchredai yn breifat ac yn gyhoeddus, mewn cyfrolau printiedig a chylchgronau. Oherwydd grym a dylanwad y llythyr fel dull o ledaenu neges yn effeithiol, yr oedd iddo werth economaidd sylweddol. Yr oedd Iolo yn ymwybodol o hyn a chyfrannodd i sawl cylchgrawn Cymraeg a Saesneg. Tua diwedd ei fywyd yr oedd yn awyddus i weld detholiad o'i lythyrau ei hun yn ymddangos mewn print.

Cedwir y llythyrau mewn chwe chyfrol drwchus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: NLW 21280E-21286E. Ceir llythyrau ychwanegol ymhlith casgliadau eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Ganol Caerdydd, Archifdy Morgannwg, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Bodley yn Rhydychen a'r Archifdy Gwladol. At hynny, y mae'r cylchgronau canlynol hefyd yn cynnwys llythyrau o'i eiddo: The Cambrian, The Cambrian Register, Yr Eurgrawn Wesleyaidd, The Gentleman's Magazine a Seren Gomer.

Megis llythyrau'r Morrisiaid a llythyrau Trefeca, y mae llythyrau Iolo Morganwg ymhlith y ffynonellau mwyaf gwerthfawr i'r sawl sy'n astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru'r ddeunawfed ganrif. Casgliad Iolo, fodd bynnag, yw'r mwyaf amlochrog a ffres, oherwydd rhychwant y pynciau a drafodir yn y llythyrau ac amrywiaeth eang y bobl y bu'n gohebu â hwy. Byddai Iolo yn ysgrifennu'n ddiarbed, gan lenwi pob twll a chornel o'i bapur. Ysgrifennai ar unrhyw ddarn o bapur a ddeuai i'w law, er enghraifft ar gefn taflen hysbysebu.

O ran pynciau, gellir olrhain yn y llythyrau gwrs bywyd Iolo y crefftwr annibynnol, y meddyliwr goleuedig, y Bardd Rhamantaidd a'r radical gwleidyddol a chrefyddol ymroddedig. Yn ogystal â dilyn hynt a helynt ei fywyd teuluol, fe'i cawn hefyd yn sylwebu ar bynciau amrywiol: mesurau barddoniaeth Gymraeg, y traddodiad barddol Cymraeg, hynafiaethau lleol, straeon gwerin, cerddoriaeth, daeareg, arferion amaethyddol, crefydd, datblygiadau diwydiannol, hirhoedledd, a sefyllfa druenus tlodion ei fro.

 Owen Jones (Owain Myfyr)
O ran pobl, y mae llythyrau Iolo Morganwg yn taflu goleuni gwerthfawr ar sawl cylch. Yr oedd yn llythyrwr deheuig a gwyddai'n iawn sut i blesio'i ddarllenwyr amrywiol. Trwy gyfrwng y llythyrau, gellir olrhain ymwneud Iolo ag eraill. Dangosant sut y llwyddodd i feithrin cysylltiadau, cyfnewid syniadau ac ennill dylanwad, ond dangosant hefyd fod ganddo allu rhyfeddol i fagu gelynion. Er enghraifft, dengys y llythyrau rhwng Iolo Morganwg, Owen Jones (Owain Myfyr) a William Owen Pughe rhwng 1799 a 1806 y chwerwedd a'r casineb a dyfodd rhwng Iolo ac Owen Jones, er gwaethaf ymdrechion glew a diplomataidd William Owen Pughe i gymodi rhyngddynt.


Teulu
Yn ogystal â darlunio'r ffigwr cyhoeddus, y mae'r llythyrau yn darlunio'r dyn preifat. Dilynwn droeon ei yrfa fel saer maen, siopwr, ffermwr a hynafiaethydd, a dilynwn ei deulu drwy ddrycin a hindda.

Eu crefft fel seiri maen a'u hynt yn Jamaica yw prif ffocws ei lythyrau â'i frodyr John, Miles a Thomas. Yr oedd caethwasanaeth ('a most horrid traffick in human blood') yn wrthun ganddo ac ymrwymodd yn llwyr i'r achos i'w ddiddymu. Teimlai gywilydd a siom oherwydd bod ei frodyr wedi ymgyfoethogi ar gorn caethweision yn Jamaica, ac fe'u cystwyai'n hallt yn ei lythyrau atynt. Pan waddolwyd iddo arian gan ei frawd, wynebodd sialens foesol boenus wrth benderfynu p'un ai i'w dderbyn neu beidio. A'r byd a'i ddyledion yn gwasgu arno, penderfyniad ymarferol oedd derbyn yr etifeddiaeth front yn y pen draw. Gweler NLW 21387E, rhif 8 a llythyr Iolo Morganwg at Mary Barker, 26 Mawrth 1798 (NLW 21285E, rhif 862).

Ceir cyfres o lythyrau eithriadol o ddifyr rhyngddo a'i wraig Margaret (Peggy), rhwng Chwefror 1791 a Mehefin 1795.
 Y llythyr olaf a ysgrifennodd Iolo Morganwg

Y llythyr olaf a ysgrifennodd Iolo Morganwg

Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd Iolo yn Llundain yn ceisio llywio ei gyfrol o gerddi Saesneg Poems, Lyric and Pastoral (1794) drwy'r wasg tra oedd Margaret yn gofalu am bedwar o blant bach a'i thad-yng-nghyfraith oedrannus yn ei chartref ym Morgannwg. Yn y llythyrau hyn, gellir cydymdeimlo â sefyllfa fregus Margaret fel gwraig a mam a adawyd i ofalu am ei theulu heb gefnogaeth economaidd ac emosiynol ei gŵr. Cwyna yn ddi-baid ynghylch hyn. Yn yr enghraifft hon clywir un o'i chwynion mwyaf torcalonnus: 'I know not how to find bread for your children another week'. (Llythyr Margaret (Peggy) Williams at Iolo Morganwg (1 Ionawr 1793))

Y mae'r ohebiaeth estynedig rhwng Iolo a'i fab Taliesin yn ddrych diddorol i'w perthynas. Eilunaddolai Taliesin ei dad a byddent yn trafod addysg, barddoniaeth, Barddas a defodaeth orseddol yn eu llythyrau. Yr oedd Iolo yn ystyried ei fab yn etifedd iddo ac yn gyfryngwr i'w neges a'i weledigaeth ond ni wyddai Taliesin mai ffugwaith oedd llawer o ddeunydd llenyddol a hanesyddol ei dad.

Ceir ambell lythyr sy'n darlunio ymwneud hoffus Iolo â'i wyrion.

Cysylltiadau Lleol
Ar ddechrau ei yrfa gohebai Iolo â beirdd Blaenau Morgannwg: John Bradford, Wiliam Dafydd, Siencyn Morgan, Josiah Rees ac Iaco Twrbil. Dengys y llythyrau hyn fod beirdd Morgannwg hwythau yn chwarae eu rhan yn neffro diwylliannol y ddeunawfed ganrif. Bu dau o ysgolheigion Morgannwg yn ddylanwad ffurfiannol pwysig ar Iolo, sef John Walters a Thomas Richards, Llangrallo.

Gweddill Cymru a'r Cymry yn Llundain
Briga nifer o Gymry llengar adnabyddus y dydd i'r wyneb yng ngohebiaeth Iolo Morganwg: Walter Davies (Gwallter Mechain), John Edwards (Siôn Ceiriog), John Jones (Jac Glan-y-gors), Owen Jones (Owain Myfyr), William Owen Pughe, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) a David Thomas (Dafydd Ddu Eryri).
 William Owen Pughe
Yn y llythyrau hyn, yn enwedig yr ohebiaeth rhyngddo a Chymry Llundain, cawn gipolwg ar frwdfrydedd ac egni Cymdeithas y Gwyneddigion (a sefydlwyd ym 1770). Cyfrannodd Iolo ddeunydd dilys a ffug fel ei gilydd i gyhoeddiadau'r gymdeithas, sef cerddi enwog 'Yr Ychwanegiad' yn Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), deunydd amrywiol ei natur i The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7) a'r cylchgrawn byrhoedlog a olygwyd gan William Owen Pughe, Y Greal (1805–7).

Er mai i'r Gwyneddigion y mae'r diolch am feithrin cenedlgarwch a hyder Iolo yn ei allu fel bardd, eu hagwedd dilornus hwythau at iaith a llên de Cymru a roes fin ar ei frogarwch sensitif. Yn ei ymwneud â hwy gwelwn ddechreuadau'r cynyrfiadau a ysgogodd ei gasineb digymrodedd tuag at ogleddwyr yn gyffredinol.

Y Cylchoedd Seisnig
Pan oedd yn llywio Poems, Lyric and Pastoral (1794) drwy'r wasg, byddai Iolo yn ymweld â swyddfa'r argraffydd Undodaidd a radicalaidd Joseph Johnson. Deliai â Johnson wyneb yn wyneb ac y mae un llythyr ato, dyddiedig 1 Medi 1795, wedi goroesi yng nghasgliad Llanofer (NLW 21286, rhif 1017). Trwy gyfrwng y gŵr rhadlon hwn daeth Iolo i gysylltiad â radicaliaid ac Undodiaid fel ei gilydd: John Aikin, Anna Laetitia Barbauld, John Disney, George Dyer a William Godwin.

'Bluestockings' ac Anghydffurfwyr Rhesymegol oedd nifer o'r gwragedd a danysgrifiodd i'w gyfrol o gerddi ac sy'n ymddangos yn ei ohebiaeth: Elizabeth Montagu a'i chwaer Sarah Scott, Hannah More, Ann Yearsley, Anna Seward, Mary Barker, Hester Thrale Piozzi, Anna Laetitia Barbauld, Henrietta Bowdler a Lady Elizabeth Brown Greenly. Ysgrifennai atynt yn ôl patrymau cydnabyddedig yr oes, sef teimladrwydd (S. sensibility). Rhydd y llythyrau sy'n perthyn i'r 1790au, yn enwedig y rhai a anfonwyd at John Walters a Margaret (Peggy) Williams, ddarlun lliwgar o Iolo fel Jacobin Cymreig a gasâi â chas perffaith ormes 'Eglwys a Brenhiniaeth' ('Church and Kingism'). Gwelir ynddynt hefyd ymateb uniongyrchol Iolo i hinsawdd wleidyddol gyffrous y cyfnod.

Eisteddfodwyr a Gorseddogion
Bu'r flwyddyn 1819 yn drobwynt yn hanes yr Orsedd, oherwydd yn yr eisteddfod a drefnwyd yng Nghaerfyrddin gan gymdeithas Gymroaidd Dyfed yn y flwyddyn honno cynhaliodd Iolo seremoni orseddol fel rhan o'r dathliadau. O hynny ymlaen, sefydlwyd patrwm ar gyfer y llu o eisteddfodau taleithiol a drefnwyd wedi hynny. Ymhlith y personiaid llengar a fu ynghlwm wrth ddatblygu'r eisteddfodau taleithiol a'r Orsedd ceir Walter Davies (Gwallter Mechain), John Jenkins (Ifor Ceri), W. J. Rees, Casgob, a Thomas Price (Carnhuanawc). Gwelir y bwrlwm hwn yn cyniwair yn y llythyrau sy'n perthyn i flynyddoedd olaf bywyd Iolo. Yn ddiweddarach, cyfrannodd Thomas Price, cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ac Arglwyddes Llanofer i'r proses o boblogeiddio Barddas a datblygu statws gwirioneddol genedlaethol yr Orsedd. Bu'r cylch hwn hefyd yn gefnogol i gynlluniau Iolo i gyhoeddi Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829).


Llythyr Iolo Morganwg at Taliesin Williams, 30 Mai 1826 (NLW 21286E, rhif 998)
Admin