C Y M R A E G

Iolo Morganwg to David Williams, 1 January 1803

(NLW 21285E, Letter 1032, marginalia)


David Williams

David Williams

Bydded hysbys
Prif amseroedd a dyddiau Cadair a Gorsedd wrth Gerdd a Barddoniaeth, ac wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain ydynt y pedair gwyl a gwledd arbennigion, nid amgen
Y Cyntaf, Gwyl Alban Arthan - Rhagfyr yr 21fed,
Yr Ail, Gwyl Alban Eilir - Mawrth yr 21fed,
Y Drydedd, Gwyl Alban Hefin - Mehefin yr 21fed,
A'r Pedwerydd, Gwyl Alban Elfed - Medi yr 21fed,

Ac ar y dyddiau prifwyl hynn yr ydys yn bwriadu, o hynn allan, cynnal Cadair a Gorsedd wrth Gerdd, wrth Fraint a defod Beirdd Ynys Prydain, ac ym Mraint Cadair Morganwg a Gwent ac Euas ac Erging ac Ystrad Yw. ar Bèn Bryn <Twyn> Owain ym Morganwg, yn yr amlwg, ynghlyw a golwg Gwlad ac Arlwydd, ac yn llygad haul ac wyneb goleuni.

[?page torn] Bryn Owain, yw'r Mynydd a elwir y Stalling Down [?page torn] Bont-faen,
Admin