![]() Bywyd IoloDeunydd hunangofiannol (NLW 21387E ) Y Sylwebydd Amaethyddol a'r Ffermwr Y FfugiwrY mae Iolo bellach yn adnabyddus am ffugio cerddi yn enw Dafydd ap Gwilym ac eraill. Ffugiodd hefyd frutiau a llawer o drioedd, ynghyd â thraddodiadau mawr a mân yn ymwneud â hanes Morgannwg. Ffrwyth ei ddychymyg oedd Barddas a'i hanfodion, sef Dosbarth Morgannwg a'r wyddor farddol, Coelbren y Beirdd. Fel ffugwyr eraill yn Ewrop yn y cyfnod Rhamantaidd, cymhellion gwladgarol a brogarol oedd wrth wraidd gwaith ffugio Iolo. Brodiodd elfennau ffansïol i wead y traddodiad barddol dilys er mwyn amddiffyn enw da iaith, llên a diwylliant Cymru a Morgannwg - yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill. Roedd ganddo gymhelliant mwy personol hefyd. Creadur teimladol oedd Iolo ac ni allai ddioddef beirniadaeth yn hawdd. Felly, gellir credu bod priodoli ei waith i feirdd ac awduron eraill yn fodd o ymbellhau yn emosiynol oddi wrth ei waith ei hun ac felly o leihau'r boen pe beirniadwyd y gwaith hwnnw yn hallt gan eraill. Diau mai ei gaethiwed i'r cyffur laudanum a arweiniodd at anallu Iolo i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen yn ei weledigaeth farddol. Er i wŷr megis John Walters, David Thomas (Dafydd Ddu Eryri), Edward 'Celtic' Davies, a Walter Davies (Gwallter Mechain) amau dilysrwydd honiadau Iolo, nid adwaenid ef fel ffugiwr llenyddol yn ystod ei oes. Wedi ei ddyddiau y datguddiwyd maint a mesur ei ymyrraeth â'r traddodiad barddol dilys a'i destunau. Am wybodaeth bellach, gweler yr adran ar etifeddiaeth Iolo a Mary-Ann Constantine, The Truth Against the World (Cardiff, 2007). |