E N G L I S H

Dagrau yr Awen (1772)

Dagrau yr Awen neu Farwnad Lewis Hopcin Fardd, o Landyfodwg ym Morganwg (Pont-y-Fon, 1772)

Bu farw Lewis Hopkin (1707/8-1771) o Landyfodwg ym 1771; Anghydffurfiwr o grefftwr a oedd yn hyddysg mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ydoedd. Yn ôl G. J. Williams, ef oedd y galluocaf a'r pwysicaf o feirdd cyfoes Morgannwg a adwaenid fel y 'Gramadegyddion', sef John Bradford, Edward Evan o Aberdâr, Dafydd Hopcyn o'r Coety, Lewis Hopkin, Rhys Morgan o Bencraig-nedd, Dafydd Nicolas o Aberpergwm, Dafydd Thomas o Bandy'r Ystrad ac, o bosibl, Wil Hopcyn o Langynwyd. Lluniodd Iolo ei gerdd ar gais Siencyn Morgan a oedd wedi anfon cyfres o englynion yn galaru am Lewis Hopkin at Iolo mewn llythyr: NLW 21390E, f. 17. Y mae cywydd Iolo, a gyhoeddwyd o dan ei enw bedydd, Edward Williams, yn cyfleu ei anobaith wedi marw'r gŵr ac yn dyst i bwysigrwydd y cylch barddol hwn wrth feithrin doniau'r bardd ifanc:

nodaist a'th lid annedwydd
yn awr, lew dirfawr, ein dydd,
yr un i ti yw'r annoeth
ac un a dawr geneu doeth,
gyrri gall yn fall iw fedd
a'r annoeth gwae ni'r unwedd,
hyll wibiwr, fal y lleban
y perchi'r Doeth a'i goeth gân
i'th afael pand gwael y gwedd
y daw pob byw'n y diwedd
yn gryf y rhoi flin grafangc
ar bob rhyw du yw dy wangc.
(NLW 13087E, tt. 333–4)



Admin