![]() Other worksA Short Account of the Ancient British Bards Autobiographical material by Iolo Morganwg Y Bardd yn Dychwelyd i Forgannwg Wedi bod Flynyddau lawer yn Lloegr Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829) Dagrau yr Awen neu Farwnad Lewis Hopcin Fardd, o Landyfodwg ym Morganwg The Heroic Elegies of Llywarç Hen (1792) Introduction to The Myvyrian Archaiology of Wales: Letter to the Gentleman's Magazine (1789) Lewis Morris, Sarcasm on Cardigan The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7) Plan of the Analytical Dissertation on the Welsh Language, by E.W. Poems, Lyric and Pastoral (1794) The Primacy of South Wales (NLW 13128A, p. 302) Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch Cywydd i Ddyfalu SerchCaru 'r wyf, i'm gornwyf gwyllt, Un lwyswen, bun ail Esyllt, Ynfydais am wen fadiain, Ffoledd fflwch i'm trwch yw'm train, Cof ni chair ynof ronyn A byd anhyfryd yw hyn, Ni fedraf, o'm hynfydrwydd, Yngan gair, fy ngwen, i'w gŵydd, Mae clwm i'm tafod, mae clo, Mae rhywbeth mal i'm rheibio, Er adwyth y siaradaf, Os siarad, rhyw nâd a wnaf, Siarad â min ffolineb A wnaf, a ffolach na neb, Cilio wnaf, a'm calon i Yn wyllt ac ymron hollti, Myned yn swrth i'm gwrthol, A'r amhwyll rhull i'm ffull ffôl. Da'r cyfan yn ei hanwydd, A'm holliaith yn rhulliaith rhwydd, Addo'r tro nesa'n wiwddoeth Sôn wrth wen yn gymen goeth, Addo gair iddi o gariad, Gair llwyr a'm synnwyr i'm siad, Addo serch i'r wenferch wâr, A llif y nwyf i'm llafar, Dwedyd fy meddwl didwyll Wrth wen, ac i'm pen y pwyll, Dwedyd mae nghariad ydyw Fy mun deg wen, seren syw, A sôn y cyfan o'm serch, O 'ngwynfyd! - wrth fy ngwenferch. Anffelwas wyf yn ffoli, Mab rhylyth, gwae fyth, wyf fi, Cael oed ym mol coed, le cain, Awr hywaith, gyda'm rhiain, Chwennych cusan dynan deg, Ac iddi dorri goddeg, Eto rhyw raib i'm hatal Y sydd ar fy nghalon sâl; Mud wyf heb imi dafawd, Yn weilydd heb ffydd na ffawd, Chwennych yn drist le distaw Er cael ochain mewn drain draw, Yn ochain weithiau'n uchel A bron yn brudd i'm cudd cêl, Ar brydiau'n ŵr bwriadwyllt Ac ynof y gwallgof gwyllt, Y tybiau fal tonnau tân Yn rhull yn torri allan, Rhai annoeth oll, rhynoeth Ÿnt, A gornwyf melltog arnynt, Prydu acenu caniad, A gwyllt wyf i'm nwyf a'm nad, Seinio, heb air yn synnwyr, Y gerdd yn wall angerdd llwyr, Y gwŸn yn fflamiog ynof, Iaith y tân yw'r cyfan i'm cof, Y mae'n daer i'm henaid i Y bwriad poeth yn berwi, A ffrwd y gwaed brwd i'm bron, A gweli'n eitha'r galon, Ar brydiau'r bryd, lledfryd llaith, Yn gwibio at lun gobaith, Aros yno dros ennyd Ac ynni mawr, gwyn 'y myd! Och calyn pryd, gwynfyd gwyllt, Yn yr awyr draw'n rhywyllt. Gwae fi'r adwyth i'm llwythaw, Gwan feddwl fab dwl a'm daw, Syrthiaf i'r pwll mwll lle mae Mwg erchyll ofn i'm gwarchae, Ymhell a gerfydd fy mhen I anobaith anniben, Ofn mawr fal cawr i'm curaw A'm bron yn ysig i'm braw, Ofni fy llun fal efnych A'm bryd yn aethlyd i'm nych. Gwae fi roi'm serch ar ferch fain A mwriad ar bryd mirain, Adwyth i'm henaid ydyw, Colyn aeth i'm calon yw, Clir i'm pen yr ymennydd Yn dwyn meddwl dwl i'm dydd, Darfu'r doethineb dirfawr, Adyn wyf i'n nwyf yn awr, Cwmwl ar y meddwl mad Yw cur allwynin cariad, Cân am bu gynt, helynt hardd, Yn degwch y pwyll digardd, Cân eos i'm cain awen, Cân bêr yn dwyn llawnder llên, Y gân hon a gawn o hyd Yn geinfalch dôn y gwynfyd, Awen flodeuog hywaith, Bu gwlŸdd, bu gelfydd ei gwaith, Yn wiwddoeth i'w thôn addwyn, Ail adar llafar y llwyn, Llygrwyd llên ac awen goeth Och ynof o'm nych annoeth, Eiddil yw'm pwyll a diles O'm serch at wenferch liw'r tes, Gwae'r galon am hon liw haf, Mae ernych yn drwm arnaf, Dyn didal, dinod ydwyf, Colli'm clod yw'n nod i'm nwyf. (Tegwyn Jones (gol.), Y Gwir Degwch: detholiad o gywyddau serch Iolo Morganwg (Gwasg y Wern, 1980), tt. 14-19) |