C Y M R A E G

Y Bardd yn Dychwelyd i Forgannwg wedi bod Flynyddau lawer yn Lloegr


1.
A minnau mewn manwydd, le mwyn ar ael mynydd,
Yn rhoddi tôn gelfydd awenydd ar waith,
Yn mynnu 'nymuniad fu mawr yn fy mwriad,
Llais cariad y ganiad a'i gwiniaith.

2.
Teg adar tew goedydd yn llawn eu llawenydd,
I'r addien foreddydd, a'u gwenydd a gawn,
Cain ydoedd caniadau hoyw adlais, a'u hodlau
'R hyd wigau a dolau blodeulawn.

3.
Pib organ pob ergyd, nâd addwyn dedwyddyd,
Clymiadau llais hyfryd y gwynfyd ar gân,
Ac awen y gwiail yn toddi'n y tewddail,
Serch miwail yn arail tôn eirian.

4.
Oedd glastardd y gwlyster hyd weunydd yn dyner,
A Mai'n ei llawn wychder yn ffriwber a ffraw,
Oedd harddwch ysblennydd yn mysaing y meysydd,
Y cedydd a dolydd yn deiliaw.

5.
Hyfryded i 'ngolwg yw gwenau Morgannwg,
Y gwiwle digilwg, gwlad amlwg y dawn,
Hoyw frodir hyfrydwch, a goror hawddgarwch,
Bro'r elwch a'r heddwch pur hyddawn.

6.
Bûm hir o flynyddoedd, ansiriol amseroedd,
Yn aros yn nhiroedd a siroedd y Sais,
Ond eilydd yn unman i siriol fro seirian
Gwladforgan ne wiwlan ni welais.

7.
Cyfrifir hi beunydd yn frasaf o'r gwledydd,
Yn llannerch llawenydd, a'i gwenydd yn gain,
Gardd Cymru'n dra chymwys y'i gelwir, fro gulwys,
Gwlad irlwys, paradwys tir Prydain.

8.
Gwladforgan lle'm ganed, ni welaf d'anwyled,
Na goror hawddgared, a gwired y gair,
Wyd addef prydyddion, a maenol y mwynion,
Bro dirion y dynion dianair.

9.
E noda'r caniedydd dwf iesin dy feysydd,
A'th ddeilwisg i'th ddolydd, le dedwydd ar don,
Pentrefi dy ddeiliaid, ne lliwgain i'm llygaid,
Tai cannaid yn galchaid o gylchon.

10.
Bro blith a gwenithoedd a llawnion berllannoedd,
Wyd eirian i'th diroedd, a miloedd a'u mawl,
Ni welais don eilydd i'th faenol a'th fynydd,
Am laswydd a gweunydd eginawl.

11.
Bûm hir o Forgannwg, le gwiwlwys i'm golwg,
Yn ymlid cur amlwg er mawrddrwg i mi,
Yn ystref llin estron, yn dwr o flinderon,
A'r ddwyfron a'r galon dan guli.

12.
O'r diwedd dychwelaid i'r goror a gerais,
Y man a ddymunais, lle seiliais fy serch,
A'i gwerin i'w gwaredd i'm aroll â mawredd,
Sirioledd a mwynedd i'm annerch.

13.
Fe'm gyrrwyd gan hiraeth i fro 'ngendigaeth,
Er cilio rhag galaeth ac arfaeth y gwg,
Mae gwynfyd i'm calon fy nyfod yr awron
I gylchon tai gwynion Morgannwg.

14.
Caf rodio ei meysydd a dilyn ei dolydd,
Yn fwyn wrth afonydd, a dedwydd y daith,
A mirain fy mwriad yw gwenydd y ganiad,
Dawn cariad yn siarad mesuriaith.

15.
Caf dreiglaw'n y tawel mewn irgoed, man argel,
Lle'm daw ar bob awel llais angel y serch,
A rhiniau'r awenydd i'm bryd, a mi'n brydydd,
Lle bydd y man llonydd mewn llannerch.

16.
Caf feddu pob hawddfyd, awr heddwch a rhyddid,
Caf wenferch, caf wynfyd, a bywyd heb wg,
Caf serch ac anerchion a pharch i 'mhenillion
Gan ddynion tai gwynion Morgannwg.

17.
Caf siarad â beirddion, odiaethaf gymdeithion,
A'u dethol o'r doethion, rai mwynion eu moes,
Caf arail syberwyd i'w lwybrau goleubryd,
Caf hollfyd y menwyd i'm einioes.

18.
Rhoed uchel Naf elwch ei ddawn a'i ddiddanwch,
Naws pêr ei dynerwch er heddwch i'm rhaid,
Yr annwyl wirionedd, a'r galon i'w goledd,
A gwledd yr amynedd i'm enaid.

19.
Rhoed Iôr o'i rad eirian ryw gilfa i bêr gelfan,
Ymhell imi allan o drigfan y drwg,
Ac oesi yn wiw gyson lle caf gyfaill cyfion,
GwŸr llon muriau gwynion Morgannwg.


(P. J. Donovan (gol.), Cerddi Rhydd Iolo Morganwg (Caerdydd, 1980), tt. 1-3.)
Admin