E N G L I S H

Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch


Gweithiodd Iolo yn ddiarbed dros achos yr Undodiaid yn ne Cymru, a chyfansoddodd gorff sylweddol o emynau ar gyfer y cynulleidfaoedd yno. Canran fechan iawn o'r tair mil o emynau a gyfansoddwyd ganddo a argraffwyd yn Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (1812). Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r gyfrol hon ym 1827, ac ail gyfrol o emynau dan ofal Taliesin ym 1834.

Yn yr emynau hyn trafodir materion cymdeithasol, ynghyd â themâu megis cyfiawnder a chydraddoldeb. Cyfansoddodd Iolo hefyd nifer o emyndonau.

Y mae ei ragarweiniad i'r gyfrol yn gwbl annodweddiadol o gyfrolau crefyddol ei oes oherwydd, wedi iddo ddiolch i Undodiaid blaenllaw megis Andrew Kippis, Theophilus Lindsey a John Prior Estlin am eu cymorth, manteisiodd Iolo ar y cyfle i gollfarnu Owain Myfyr a William Owen Pughe. Brithir y rhagarweiniad hefyd â themâu sy'n ymwneud â Barddas, sef y mesurau Cymreig a rhagoriaeth tafodiaith Morgannwg. Cyhoeddwyd y gyfrol dan ei enw barddol, 'Iolo Morganwg, B.B.D.', yn hytrach na than ei enw bedydd, Edward Williams.

Cyfieithodd Iolo hefyd gyfrol ddefosiynol Undodaidd gan John Prior Estlin i'r Gymraeg, sef Holiadur, neu Addysgiadau Cyffredin, Hawl ac Atteb, yn Athrawiaethau Dyledswyddau Crefydd (Merthyr Tydfil, 1814).

Admin