E N G L I S H

Poems, Lyric and Pastoral (1794)


Poems, Lyric and Pastoral

Poems, Lyric and Pastoral

Dyma'r unig gyfrol gyhoeddedig o gerddi Saesneg Iolo. Gan mwyaf, cerddi serch a natur confensiynol a bugeilgerddi yn moli purdeb a symlrwydd bywyd gwledig yn null William Shenstone a William Collins yw'r cerddi cynnar. Nid yw cerddi 'barddol' aeddfed yr ail gyfrol yn gweddu'n llwyr â juvenilia y gyfrol gyntaf, ac y maent hefyd yn gwbl wahanol o ran arddull a meddylfryd.

Sylwodd beirniaid cyfoes ar y gwahaniaeth sylfaenol hwn ac yn eu hadolygiadau beirniadwyd cynnwys gwleidyddol tanbaid cerddi megis 'Ode on converting a Sword into a Pruning-hook' a 'Ode on the Mythology of the Ancient British Bards'. Y mae rhagarweiniad y gyfrol yn portreadu Iolo yn fwriadol fel bardd a oedd yn perthyn i'r traddodiad artisan.

Gobaith Iolo oedd y byddai'r fath ddelwedd yn plesio cynulleidfaoedd llenyddol Llundain a oedd eisoes yn gyfarwydd â gwaith beirdd cyffelyb megis Robert Burns, Ann Yearsley, Stephen Duck ac eraill. At hynny, cyfeiria'r rhagarweiniad hefyd at y meini tramgwydd real a dychmygol a wynebai Iolo wrth lywio'r gyfrol yn araf drwy'r wasg rhwng 1791 a 1794. Yn ystod y cyfnod hwn, dirywiodd ei iechyd yn feddyliol a chorfforol.

Ode on converting a Sword into a Pruning-hook
Ode on the Mythology of the Ancient British Bards
Banks of the Daw

Admin