E N G L I S H

The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7)


Er i Owain Myfyr a William Owen Pughe gefnogi bwriad Iolo i gyhoeddi 'The History of the Bards', yr oeddynt yn fwy awyddus i ofalu bod The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-07) yn cyrraedd y wasg yn llwyddiannus. Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith yr Oesoedd Canol oedd tair cyfrol y Myvyrian Archaiology. Ariannwyd y cyfrolau gan Owain Myfyr a bu Pughe yn gweithio ar y prosiect er 1798. Argraffwyd y ffugiadau canlynol gan Iolo yn yr ail gyfrol a gyhoeddwyd ym 1801, sef cyfres o drioedd a dau gronicl ffug, 'Brut Aberpergwm' a 'Brut Ieuan Brechfa', a luniwyd ar batrwm Brut y Tywysogyon. Cynhwyswyd y ffugwaith 'Doethineb y Cymry' yn y drydedd gyfrol a gyhoeddwyd ym 1807. Ar un adeg, temtiwyd Iolo i gynnwys 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' yn y Myvyrian Archaiology. Gwaith Iolo, gan mwyaf, yw'r traethawd diddorol, 'A Short Review of the Present State of Welsh Manuscripts', a geir ar ddechrau'r gyfrol gyntaf.

Diolch i The Myvyrian Archaiology of Wales, daeth cyfoeth o ddeunydd llawysgrifol canoloesol Cymraeg i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dathlwyd y gyfrol fel un o orchestion mwyaf y dadeni diwylliannol a fu yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif.
Admin