E N G L I S H

'The History of the Bards'

Dechreuodd Iolo weithio ar 'The History of the Bards' ym mis Awst 1795. Petai wedi ei gwblhau, hwn fyddai gwaith mawr ei fywyd, ei magnum opus.

Aeth ati o ddifri, gan gasglu deunydd crai o'r Amgueddfa Brydeinig, y Welsh Charity School a chasgliadau preifat yng Nghymru. Yr oedd mor ymrwymedig i'r fenter fel mai yn anaml y byddai'n oedi i fwyta neu fynd i'r tŷ bach, ac o ganlyniad datblygodd gerrig yn ei arennau a phroblemau gyda'i lygaid.

'The History of the Bards' oedd ei gyfle olaf i lwyddo fel awdur proffesiynol, a dywedodd wrth ei wraig mai ffolineb fyddai peidio â cheisio gwireddu'r freuddwyd arbennig honno: '[it] must be a substitute for my trade, and it would be ruinous not to pursue it' (Llythyr Iolo Morganwg at Margaret (Peggy) Williams, 1 Hydref 1795, NLW 21285E, rhif 843).

Goroesodd sawl cynllun bras ar gyfer y gyfrol, ac er eu bod yn amrywio o ran natur a chynnwys, ei nod oedd esbonio'r weledigaeth farddol. Bwriadai Iolo gynnwys traethodau ar y pynciau canlynol: yr iaith Gymraeg, tarddiad llythrennedd ymhlith y Cymry, yr wyddor farddol, gwreiddiau ac athrawiaethau'r traddodiad barddol, diwinyddiaeth a mytholeg, amryw drioedd (crefyddol, moesol, athronyddol, hanesyddol a Moelmudaidd), dyfodiad Cristnogaeth a'i effaith ar Farddas, egwyddorion llywodraethol hynafol a chyfraith y Cymry, arferion cenedlaethol y Cymry, a cherddoriaeth Gymreig.

Yr oedd yn fwriad ganddo hefyd gynnwys astudiaeth fanwl o ddatblygiad y mesurau Cymraeg, cyfnodau barddonol, a thestun llawn Dosbarth Morgannwg a welir yn y llawysgrif 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain'.

Gwaetha'r modd, ni welodd 'The History of the Bards' olau dydd oherwydd ni lwyddodd Iolo i ddod yn agos at gwblhau'r holl draethodau hyn. Cedwir sawl drafft anghyflawn o'r traethawd 'A Short Account of the Ancient British Bards', ac ynddynt datblygir y manylion ynghylch Barddas a gyhoeddwyd gan William Owen Pughe yn ei Heroic Elegies of Llywarç Hen (1792). Cedwir hefyd ddrafft o'i draethawd ar yr iaith Gymraeg, a fwriadwyd ar gyfer y gyfrol hon, 'Plan of the Analytical Dissertation on the Welsh Language'. Clicier i weld fersiwn digidol o un o lawysgrifau Iolo sy'n cynnwys deunydd a fwriadwyd ar gyfer 'The History of the Bards', NLW 13107B: Casglu'r Tlysau. Cyhoeddwyd llawer o'r ffugiadau barddol a fwriadwyd ar gyfer 'The History of the Bards' yn ail a thrydedd gyfrol The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7).


Admin