E N G L I S H

The Heroic Elegies of Llywarç Hen (1792)


Cyfansoddwyd y gyfrol hon o gyfieithiadau o gerddi Llywarch Hen gan William Owen Pughe. Y mae'r tudalennau ar Farddas a gynhwysir yn rhagymadrodd y gyfrol hon yn canolbwyntio ar syniadaeth a defodaeth yr hen Feirdd a Derwyddon Cymreig, eu diarhebion, eu hathrawiaethau crefyddol, eu disgyblaeth, eu cymwysterau a'u graddau, ynghyd â detholiad o'u trioedd perthnasol. Dethlir Barddas fel system sy'n olrhain ei hegwyddorion i'r Patriarchiaid: 'a system embracing all the leading principles which tend to spread liberty, peace and happiness amongst mankind' (t. xxiv). Heddwch, rhyddid i

archwilio materion a oedd yn ymwneud â gwirionedd a doethineb, cydraddoldeb, a didwylledd gweithgarwch yr Orsedd oedd prif egwyddorion Barddas. Wrth ddisgrifio daliadau crefyddol Barddas cyfunodd Iolo wybodaeth draddodiadol am y Derwyddon â materion llosg cyfoes. Honnodd fod y beirdd yn credu yn nhrawsnewidiad yr enaid, eu bod wedi cadw'r grefydd Gristnogol bur yn ystod canrifoedd goruchafiaeth Eglwys Rufain, a bod ôl dysgeidiaeth y Crynwyr i'w chanfod yn eu plith hefyd. I'r geiriadurwr John Walters, 'made Dish', neu gywaith anghredadwy oedd Barddas fel yr amlygid hi yn y gyfrol hon:

cooked up from obscure scraps of the ancient Bards, and the Cabala (the pretended arcana) of the modern ones; a superficial acquaintance with the Metempsychosis; and these ingredients spiced with an immoderate quantity of wild Invention. It is a species of Free Masonry . . . All that I shall further say on the Subject is that Mr Owen and his Coadjutor have not clubb'd their wits for nothing. (Llythyr John Walters at Edward Davies, 3 Mai 1793, Cardiff 3.104, cyfrol 6, rhif 3)


Admin