E N G L I S H

Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)

Bu Iolo farw cyn i'w gyfrol Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829) gael ei chyhoeddi. Ceir yn y gyfrol hon ddisgrifiad o 'Ddosbarth Morganwg', sef yr unig ddosbarthiad dilys (a derwyddol) o'r mesurau caeth Cymreig ym marn Iolo.

Lluniwyd cyfran dda o'r testun yn ystod y flwyddyn y treuliodd Iolo yng ngharchar Caerdydd ym 1786-7, a dyma, y mae'n debyg, oedd y testun 'barddol' cyntaf iddo ei ffugio. Traethawd hynod wreiddiol ar fesurau Cerdd Dafod yw 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ac y mae'n dyst i feistrolaeth ac awdurdod Iolo ar y pwnc. Fodd bynnag, cyfunodd ei awdurdod â'i greadigrwydd rhyfeddol, a defnyddiodd strwythur y llysieuydd Linnaeus yn batrwm.

Daeth y mesurau Cymreig a ddosbarthwyd ac a safonwyd gan Ddafydd ab Edmwnd (fl. 1450-97) ac a dderbyniwyd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd tua 1453 yng Nghaerfyrddin yn enwog am eu cymhlethdod a'u gofynion technegol astrus.

Gwrthododd Iolo y safonau hyn yn 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain', gan adfer hen ffurfiau caeth a rhydd, ffurfio mesurau newydd, a ffugio enghreifftiau gan feirdd Morgannwg i'w cefnogi.

Erbyn 1791 y dosbarth hwn oedd conglfaen ei weledigaeth farddol, a syniai Iolo amdano fel prawf o awdurdod hynafol a rhagoriaeth traddodiad llenyddol ei sir enedigol ei hun. Bellach, taerai fod 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' yn profi bod beirdd gogledd Cymru wedi crwydro oddi ar y gwir lwybr barddol i barthau barbaraidd, a bod y traddodiad barddol dilys - Barddas - wedi goroesi yn ne Cymru dan ofal beirdd Morgannwg.
Admin