E N G L I S H

Y Saer Maen


Er gwaethaf yr enw a enillodd iddo'i hun fel saer cenedl, ennill ei fara menyn fel saer maen fu hanes Iolo am gyfran dda o'i oes. Yn hyn o beth, magwyd ei frodyr ac yntau i ddilyn camre eu tad, a gweithiai'r pump yn aml gyda'i gilydd ym Morgannwg a'r cyffiniau.
Taflen hysbysebu

Taflen hysbysebu

Credir mai enghraifft o waith Edward Williams y tad sydd ar fur eglwys Silstwn. Yn wir, honnodd Iolo iddo ddysgu darllen trwy wylio ei dad yn cerfio enwau ar gerrig beddi. Y mae'n siŵr fod elfen o fowldio delwedd yn y stori hon, oherwydd yr oedd ei statws fel crefftwr hunanaddysgedig yn ganolog i'r ddelwedd o fardd dosbarth-gweithiol (megis Anne Yearsley a Robert Burns) a hybodd Iolo yn ei gyfrol Poems, Lyric and Pastoral (1794).

Wedi marwolaeth ei fam ym 1770, treuliodd Iolo gyfnod fel saer maen crwydrol yn ne-orllewin Lloegr, gan fyw yn Llundain, Bryste, Caerfaddon, Caint, Dorset, Dyfnaint a Gwlad yr Haf. O ganol y 1770au ymlaen sefydlodd fusnes ym Morgannwg, er iddo barhau â gweithdy ei frawd Thomas yn Wells am gyfnod byr tua 1785. Yn ôl ei hysbysebion, yr oedd Iolo yn saer maen crefftus iawn. Gallai ymgymryd â rhychwant eang o dasgau: mentyll simneiau, cofadeiladau, cerrig beddi, a thrin marmor. Y mae enghreifftiau o'i waith fel saer maen i'w gweld o hyd: cofeb Anthony Jones, Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr; beddfaen ei dad-yng-nghyfraith, Rees Robert(s), eglwys Llan-fair; ac ym mynwent Silstwn.

Goroesodd nifer o frasluniau pensaernïol o'i eiddo hefyd, gan gynnwys cynllun ar gyfer bwthyn delfrydol a darlun o'i gartref yn Nhrefflemin.
Cartref Iolo

Cartref Iolo



Dysgodd Taliesin Williams hefyd grefft y saer maen gan ei dad, ac y mae taflen yn hysbysebu gwaith Iolo a Thaliesin o tua 1805 wedi goroesi (NLW 21418E, rhif 13v). Fodd bynnag, ni fu'n rhaid i Daliesin ddilyn ei dad i'r maes hwn, a llwyddodd i gael gyrfa fel ysgolfeistr.

Ceir darlun sentimental o fywyd y saer maen mewn cerdd Gymraeg gan Iolo, 'Cân y Maensaer', a hefyd mewn cerdd Saesneg fasweddus o'i eiddo, 'Stonecutter's Song' (NLW 21392F, rhif 73). [Cliciwch er mwyn cael blas ar y gân Saesneg (mp3) Recordiwyd y gân ar gyfer Prosiect Iolo Morganwg gan y grŵp canu gwerin 'Simply English'. Gweler http://andyrouse.com/se/ am fwy o fanylion]. ].

Y mae peth gorgyffwrdd rhwng gwaith Iolo fel saer maen a'i ddiddordebau hynafiaethol. Lluniodd hanesyn rhamantus am borth cain Castell y Bewpyr er mwyn dyrchafu bri Morgannwg a'i thrigolion, a darganfu golofn Samson ym mynwent Sant Illtud, Llanilltud Fawr.
Admin