![]() Bywyd IoloDeunydd hunangofiannol (NLW 21387E ) Y Sylwebydd Amaethyddol a'r Ffermwr Y Bardd a'r EmynyddEsgeuluswyd gyrfa Iolo fel bardd tan yn gymharol ddiweddar. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cydnabuwyd ei gyfraniad fel emynydd yn sgil y sylw a roed iddo fel hynafiaethydd ac Undodwr. Yn yr ugeinfed ganrif rhoddwyd sylw i'w gyfraniad fel ffugiwr a chrëwr mythau ar draul ei enw da fel bardd. Barddonai Iolo yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond rhagorai fel bardd yn yr iaith Gymraeg a meistrolodd y mesurau caeth a rhydd fel ei gilydd. Meithrinwyd ei ddoniau fel bardd Cymraeg gan feirdd ei fro enedigol. Rhoes Edward Williams, Middle Hill, Llancarfan, fenthyg copi o gyfrol Siôn Dafydd Rhys ar ramadeg y Gymraeg iddo, ond anogaeth y Gramadegyddion oedd bwysicaf, yn enwedig Lewis Hopkin, John Bradford ac Edward Evan(s). Atgyfnerthwyd yr addysg farddol a gawsai gan y Gramadegyddion wrth iddo drawsysgrifio gwaith Beirdd y Tywysogion a cherddi Dafydd ap Gwilym o lawysgrifau gwŷr Morgannwg ac aelodau o'r Gwyneddigion. Gan mwyaf, cerddi serch sy'n efelychu geirfa, naws a themâu Dafydd ap Gwilym yw ei gerddi caeth cynnar. Lluniwyd llawer ohonynt i'w gariadferch 'Euron', sef Margaret (Peggy) Robert(s), y ferch a ddaeth yn wraig iddo ym 1781: 'Cywydd y Serch', 'Cywydd yr Anhun', 'Cywydd i anfon y fwyalch at Euron', a'r 'Cywydd i Ddyfalu Serch'. Er gwaethaf natur ddynwaredol y cerddi cynnar hyn, dangosant yn glir fod Iolo wedi meistroli Cerdd Dafod. Gwelir ei ddyfeisgarwch yn y cyfrwng caeth ar waith yn y mesurau newydd a ddyfeisiodd, sef Dosbarth Morgannwg, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829). Cerddi serch a natur yw cerddi rhydd Iolo hefyd. Y maent yn ddrych i'w dueddiadau Rhamantaidd, a cheir yn eu plith gerddi yn dyrchafu'r dyn cyffredin a'i rinweddau moesol, ac yn clodfori bywyd gwledig uwchlaw bywyd dinesig. Y mae mwy nag un o'i gerddi yn mynegi ei gasineb tuag at ddinas Llundain ac yn gwrthgyferbynnu drygioni'r ddinas â daioni a glendid cynhenid bro Morgannwg. Y mae'r cerddi rhydd hyn yn aml yn ailweithio tribannau a fuasai'n cylchredeg ar lafar ym Morgannwg. Rhaid peidio ag anghofio ychwaith y cerddi dychanol a luniodd i gyn-gyfeillion megis Owen Jones (Owain Myfyr) ('I Owain Myfyr', isod), ac i gymdogion megis Gwenllian Lloyd (NLW 21388E, rhif 7). Clywir amrywiaeth o leisiau yng ngherddi rhydd Iolo, gan gynnwys cerddi a briodolodd i feirdd eraill, yn bobl o gig a gwaed yn ogystal â rhai dychmygus: Rhys Goch ap Rhicert, Wil Tabwr, Wil Hopcyn a Dafydd Nicolas. Bwriad y cerddi hyn, yn ogystal â'r cerddi a arddelai fel ei waith ei hun, oedd dangos bod gan Forgannwg draddodiad bywiog o ganu teuluaidd ysgafn a derwyddol. Fel bardd Saesneg, meithrinwyd doniau Iolo gan y Gramadegyddion a oedd yn hyddysg mewn llenyddiaeth Seisnig gyfoes yn ogystal â'r traddodiad barddol Cymraeg. Yr oedd gan ei gyfeillion Daniel Walters a John Walters, yr ieuengaf, hefyd ran bwysig yn ei gynorthwyo i ganfod ei lais fel bardd Saesneg, a hwy, mae'n debyg, a'i cyflwynodd i waith Alexander Pope a George Dyer. Cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi Saesneg, Poems, Lyric and Pastoral, ym 1794, ac ynddi ceir cyfuniad o fugeilgerddi telynegol a cherddi barddol a gorseddol sy'n amlygu dyled ei weledigaeth farddol i hinsawdd wleidyddol danbaid y 1790au. Prif themâu'r cerddi hyn yw rhyddid, cydraddoldeb a brawdgarwch, yn ogystal â safonau personol pwysig megis onestrwydd a daioni moesol. Yr oedd Iolo yn emynydd toreithiog hefyd. Ceir tua thair mil o emynau Undodaidd ymhlith ei lawysgrifau, a'r rheini, fel ei gerddi Saesneg, yn trafod themâu megis brawdgarwch a rhyddid. Cyhoeddwyd detholiad o'i emynau yn y gyfrol Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (1812). 'I Owain Myfyr' Cenfigen sydd yn ddistaw lidiawg A hyn am achos bychan iawn Pob gair o'i genau'n dra chelwyddawg A gwenwyn sarphes ynddi'n llawn, Bront yw'r ellellyes falch annifyr A llawer bryntyn iddi'n wâs Pwy fell'n fwy nag Owain Myfyr Ai ddichell mawr a'i gelwydd cas Nid tebyg iddaw dan y Nefoedd, Neb am ddichellion iddo'n ail, Neb iddaw'n frawd a chwilio bydoedd Myrdd fwy'n ei rhif eu rhif y dail, Ar bennill englyn cân a chywydd, Eithafoedd anglod fydd ei ran Bydd sôn am dano yn dragywydd A'i enw yn drewi ym mhob man. Iolo Morganwg (NLW 13148A, t. 175) |