Bro IoloCymhelliant gwladgarol cryf oedd wrth wraidd gwaith hynafiaethol Iolo, ond cofir ef hefyd am y brogarwch tanbaid sy'n amlwg ei waith, yn enwedig o safbwynt Barddas. Pan oedd yn ŵr ifanc, syniai Iolo am Forgannwg fel gardd Cymru; nid oedd sir arall tebyg iddi o ran prydferthwch ei thirlun, ac yr oedd ei phobl a'i llefydd, meddai, yn fwy soffistigedig nag eiddo'r un sir arall yng Nghymru. Yn hyn o beth, un o ymadroddion mwyaf cyffredin Iolo oedd 'Mwynder Morganwg', ac un o themâu amlycaf ei farddoniaeth gynnar oedd y sir Forgannwg ddelfrydol, Ramantaidd hon: 'Y Bardd yn Dychwelyd i Forgannwg wedi bod Flynyddau lawer yn Lloegr'. Fodd bynnag, newidiodd natur ei frogarwch. Ac yntau'n ŵr canol oed mynegai ei frogarwch drwy ladd ar ogledd Cymru yn gyffredinol, ac ar Wynedd yn benodol. Y mae ei wrthwynebiad i ogledd Cymru a Gwynedd, felly, yn wrthbwynt ymosodol i Forgannwg lawen ei ddychymyg bachgennaidd. Gweler, er enghraifft, ei sylwadau am ragoriaeth Morgannwg a'i ddirmyg tuag at Lewis Morris. Bu is-gerrynt cystadleuol rhwng de a gogledd Cymru yn rhan o'r meddylfryd Cymreig erioed, ond ymateb amddiffynnol i'r rhagfarn a brofodd yng ngŵydd y gogleddwyr ymhlith y Cymry yn Llundain oedd casineb Iolo tuag at ogledd Cymru. Chwerwodd fwyfwy at ogledd Cymru pan chwalodd ei gyfeillgarwch ag Owen Jones (Owain Myfyr) a William Owen Pughe. O ganlyniad, creodd hierarchiaeth frogarol yn ei weledigaeth farddol. Gwelir Barddas, felly, yn dyrchafu de Cymru 'gwareiddiedig' uwchlaw gogledd Cymru 'barbaraidd'. Neu, yn fwy penodol, dyrchefir Morgannwg 'wareiddiedig' uwchlaw Gwynedd 'farbaraidd'! Yn wir, Morgannwg yw calon ddaearyddol Barddas, a mwynhâi ei phobl a'i llefydd berthynas arbennig â'r weledigaeth farddol honno. Nid yn unig yr ysbrydolwyd breuddwydion rhamantaidd a derwyddol Iolo ganddynt, ond yn eu tro, fe'u trawsffurfiwyd hwy gan ddychymyg byw Iolo. ![]() Morgannwg Iolo (Map Cowley 1744) ![]() Prydain Iolo |