E N G L I S H

Bryn Owen (Stalling Down)

Trefnodd Iolo gyfarfodydd gorseddol ar Fryn Owen (Stalling Down) yn niwedd y 1790au. Apeliai cysylltiadau derwyddol honedig y fan ato a chyfeiriai at y bryn o bryd i'w gilydd fel Bryn Gwyddon. (Y Gwyddoniaid, yn ôl Iolo, oedd rhagflaenwyr beirdd a derwyddon Ynys Prydain.) Dyma a ddywedodd am Ystrad Owen, gerllaw: 'the place where in Glamorgan, from time immemorial, the Bards met. There is a large Tumulus, and in an adjoining field the remains of an ancient Gorsedd' (NLW 13144A, t. 429).

Ym 1795 cyhoeddodd Iolo gyfarfod gorseddol cyntaf 'Cadair Morganwg, Gwent, Euas, Ergyng ac Ystrad Yw' a gwahoddodd y rhai a fynnai fod yn feirdd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain i ymgynnull ar Fryn Owen:

Yn Enw Duw a Phob Daioni
Bydded hysbys - mae amseroedd defodol cynnal Cadair a Gorsedd wrth Gerdd, yn ol arfer a defod yr hen Gymru ydynt yn gyntaf Gwyl Alban Arthan . . . Gwyl Alban Eilir . . . Gwyl Alban Hefin . . . a Gwyl Alban Elfed . . . ac ar bob un or dyddiau hynn yr ydys yn bwriadu cynnal Cadair a Gorsedd wrth Fraint a Defod Beirdd Ynys Prydain o hyn allan bob blwyddyn ar Ben Bryn Owain ym Morganwg, lle bydd llawen gan bawb Gweled Bardd a charwr Barddoniaeth.
(NLW 13103B, t. 293)

Ceir drafft o'r proclamasiwn hwn mewn llythyr at David Williams, dyddiedig 1 Ionawr 1803. Yn y cyfarfod gorseddol a gynhaliwyd ym 1795 cyhoeddodd Iolo ddogfen a ddisgrifir gan Geraint a Zonia Bowen yn eu cyfrol Hanes Gorsedd y Beirdd fel maniffesto'r Orsedd. Rhwng 1795 a 1798 cynhaliwyd Gorseddau ar ben sawl bryn ym Morgannwg: Bryn Owen, ger y Bont-faen (1795 a 1796), Mynydd y Garth, Llanilltud Faerdref (1797 a 1798), Mynydd y Fforest, Y Bont-faen (1797) a Glyn Ogwr (1798).
Admin