Cyflwyno'i hun i'r Bwrdd Amaeth a wna Iolo Morganwg yn y llythyr hwn. Gobeithiai gael ei gyflogi gan y Bwrdd i lunio arolwg amaethyddol o Dde Cymru ac felly y mae'n ceisio creu argraff arnynt gyda'i syniadau gwreiddiol a hyddysg iawn am yr hyn y dylid ei gynnwys mewn arolwg amaethyddol. Diau iddo ddibynnu ar ei brofiad cynnar fel ffermwr yn y 1780au wrth lunio'r llythyr hwn. Yn y pen draw, Walter Davies (Gwallter Mechain), cyfaill Iolo, a gyflogwyd i gyflawni'r gwaith, ond serch hynny, chwaraeodd Iolo rôl bwysig yn casglu gwybodaeth ac yn cynghori Davies.

LlGC 21285E, Llythyr 858, Iolo Morganwg at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796, tud. 1

LlGC 21285E, Llythyr 858, Iolo Morganwg at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796, tud. 2

LlGC 21285E, Llythyr 858, Iolo Morganwg at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796, tud. 3

LlGC 21285E, Llythyr 858, Iolo Morganwg at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796, tud. 4