![]() Gweithiau eraillSiencyn Morgan at I.M., 30 Tachwedd 1771 I.M. at y Parch Evan Evans,1 Ebrill 1779 Daniel Walters at I.M., 27 Mehefin 1782 Edward Eagleton at I.M., 3 Awst 1782 Owain Myfyr at I.M., 30 Medi 1782 Daniel Walters at I.M., 1 Hydref 1782 John Walters ieu. at I.M., 4 Mawrth 1783 I.M. at Owen Jones, 20 Medi 1783 I.M. at William Meyler, 1 Ionawr 1792 Margaret Williams at I.M., 1 Ionawr 1793 Walter Davies (Gwallter Mechain) at I.M., 16 Mai 1793 I.M. at Edward Jones, 1 Ionawr 1794 I.M. at Margaret Williams, 19 Chwefror 1794 I.M. at Y Parch. Hugh Jones, 4 Mehefin 1794 I.M. at Margaret Williams, 27 Awst 1794 I.M. at William Matthews, 18 Gorffennaf 1796 I.M. at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796 William Matthews at I.M., 6 Hydref 1796 I.M. at Syr Richard Colt Hoare, 17 Awst 1797 I.M. at William Owen Pughe, 20 Rhagfyr 1798 William Owen Pughe at I.M., 28 Awst 1800 I.M. at David Williams, 1 Ionawr 1803 I.M. at Owen Jones, 5 Ebrill 1806 I.M. at Taliesin Williams, 16–17 Awst 1813 I.M. at Benjamin Hall, 14 Mawrth 1816 I.M. at Ynadon Y Bont-faen, 13 Mawrth 1818 William Jenkins Rees at I.M., 28 Ionawr 1822 Owain Myfyr at Iolo Morganwg, 11 Gorffennaf 1779(NLW 21281E, rhif 226)Address: Mr Iorwerth Gwilym Bardd Postmark: none Source: NLW 21281E, no. 226 Ewch at y cyfieithiad Saesneg Llundain 11eg o Orphennaf 1779 Yr hynaws gyfaill, Dyma'r egwyl gyntaf a gefais i gydnabod fy rhwymedigaeth iti am dy anrheg gymeradwy, sef y cywyddau &c. Dywedaisd ddarfod it ysgrifennu fwy nag un llythyr ar fy medr ond eu bod yn dy anfoddio; gan fy mod yn hysbys fod ynddynt synwyr ddiddanwx ag athrawiaeth ir wyf yn deimladwy o'r golled. Y mae Moses Williams yn ei gofrestr o waith y beirdd yn rhoi y cywydd a ddexreu fal hyn "A wyddant hwy fwy om pwynt?", i O. Ll. Moel; "Y fun ddifai fwyn ddwyfes", i Bedo Brwynllys; a'r ddau eraill nis gwyddai pwy, ond yn ddiddadl eiddo Dafydd yw un ohonynt a xywydd mwyn dros ben yw, yr hwn a wnaeth wedi dwyn ohonaw Forfydd yn lladrad oddiar ei gwr. Y mae Sion Ceiriog a Rhobin Ddu yn dy annerch a xywydd a wnaethant i'r gyllell gig yn dal am y gerdd. Dyma i tithau un cywydd nad oes yn y cynulliad o waith Dafydd Gwilym a gefais gan y Doctor Roberts o Ddol gelleu a phei gwyddwn fod yn fy meddiant un peth arall a wnai yt lês neu ddiddanwx hynny a gait yn rhwydd. Mi ddanfonais at Mr Walters hanes y 24 brenin a adeilasant geurydd Ynys Brydain. Yr hanes hon ymarn Lewis Moris yn ei Celtic Remains sydd werthfawr. Pei buasai genyf amser mi fuaswn yn dy annerx dithau a xopi ohonaw ond mi wn y cei un yn rhwydd gan y Periglor. Mi dderbyniais lythyr yn ddiweddar oddiwrth y Parxedig Mr Thomas yn deisyf copi o `Orhoffedd Einion ap Gwalxmai'. Nid wyfi yn meddu yn rhagor o waith Einion namyn ysydd yn llyfr Ieuan Hîr. Os yw y `Gorhoffaidd' genyt bydd mor gymwynasgar ai ddanfon imi, neu ond odid nad yw gan Mr Walters y mae Mr Thomas yn brysur gyfieithu y `Gododin', `Gorhoffaidd Hywel ab Owain Gwynaidd' &c. Pan fo genyt hamdden e fydd hyfryd genyf dderbyn llythyr or eiddot. Nid oes genyf fi newydd yn y byd a dal son am dano. Y mae mab Mr Morris yn brysur barrotoi y Celtic Remains ar fedr ei argraphu y gaeaf nesaf am yr hwn y gallaf ddywedyd ei fod yn waith maith a dysgedig. Oes un gwaith ar droed yn y Deheubarth a all fod yn llesol i'r iaith a'r wlad? Eddarfu imi ryw draws ofyn benthyg y cascliad o waith 'r hen feirdd gan Mr Walters. Beth meddi di am hyn? Os cei egwyl i hynny ymdeimla ag ef ynghylx hyn. Y mae y cyfaill Ceiriog yn cynyddu yn rhagorol mewn gwybodaeth o'r iaith a barddoniaeth a xanddo amcan celfydd am y music &c. Fe alli ysgatfydd yt gofio glywed son fod Mr Morris yn perxen llyfr o'r hen fusic Brutanaidd yr hwn sydd yn awr yn llaw y Doctor Burney, ac os gall ef ei ddehongli y mae yn addaw gosod allan lawer ohonaw yn ei hanes cyffredinol o'r gelfyddyd beroriaeth. Mi ysgrifennaf attad beth helaethax y tro nesaf. Ti a weli yn eglur yn hwn nad oes genyf y pryd yma ond yxydig amser i ysgrifennu. Wyf dy gyfaill diffuant, Y Myfyr English TranslationLondon 11th. July 1779 My kind friend, This is the first opportunity I have had to acknowledge my debt to you for your acceptable present, namely the cywyddau &c. You said that you have written more than one letter with me in mind, but that they displeased you; since I know that there must have been sense, amusement and instruction in them I feel their loss. In his list of the works of the Bards Moses Williams attributes the cywydd which begins like this "Do they know more of my object?" to O. Ll. Moel; "The faultless girl, sweet goddess" to Bedo Brwynllys; and for the other two, he did not know who wrote them, but there is no doubt that one of them is Dafydd's work and that it is a very sweet cywydd which he sang after he had stolen Morfydd from her husband. Siôn Ceiriog and Robin Ddu greet you with a cywydd which they made about the meat knife to repay you for your poem. Here is a cywydd for you which is not in the collection of the work of Dafydd ap Gwilym which I received from Doctor Roberts of Dolgellau and if I knew that there was anything else in my possession that would do you good or give you pleasure I would send it to you immediately. I sent to Mr Walters the history of the 24 kings who built the fortresses of the Island of Britain. This is a valuable story according to Lewis Morris in his Celtic Remains. If I had the time I would present you with a copy of it, but I know that you can easily get hold of one from the Rector. I received a letter recently from the Reverend Mr Thomas asking for a copy of the `Conceit of Einion son of Gwalchmai'. I do not have any more of Einion's work except what is to be found in Ieuan Hir's book. If you have the Conceit, please be so kind as to send it to me or Mr Walters may well have it. Mr Thomas is busily translating the `Gododdin', `Hywel ab Owain Gwynedd's Conceit' &c. When you find yourself at leisure I would be pleased to receive a letter from you. I have no news at all that is worth the mention. Mr Morris's son is busily preparing the Celtic Remains for publication next winter, and I can warrant you that it is a copious and learned work. Is there any work underway in south Wales which might be of benefit to the language and the country? I did tentatively enquire whether I might borrow the collection of the work of the old bards from Mr Walters. What do you say about this? If you get an opportunity, try and gauge his feeling about this. Our friend Ceiriog is improving most excellently in his knowledge of the language and poetry and he has ingenious notions about the music &c. You will perhaps remember hearing that Mr Morris owned a book of the old British music which is now in the hands of Doctor Burney, and if he can interpret it he promises to set out a great deal of it in his general history of the art of music. I will write at greater length to you next time. You will see clearly in this letter that I have but very little time to write at present. I am your sincere friend, The Myfyr |