![]() Gweithiau eraillSiencyn Morgan at I.M., 30 Tachwedd 1771 I.M. at y Parch Evan Evans,1 Ebrill 1779 Owen Jones at I.M., 11 Gorffennaf 1779 Daniel Walters at I.M., 27 Mehefin 1782 Edward Eagleton at I.M., 3 Awst 1782 Owain Myfyr at I.M., 30 Medi 1782 Daniel Walters at I.M., 1 Hydref 1782 John Walters ieu. at I.M., 4 Mawrth 1783 I.M. at Owen Jones, 20 Medi 1783 I.M. at William Meyler, 1 Ionawr 1792 Margaret Williams at I.M., 1 Ionawr 1793 Walter Davies (Gwallter Mechain) at I.M., 16 Mai 1793 I.M. at Edward Jones, 1 Ionawr 1794 I.M. at Margaret Williams, 19 Chwefror 1794 I.M. at Y Parch. Hugh Jones, 4 Mehefin 1794 I.M. at Margaret Williams, 27 Awst 1794 I.M. at William Matthews, 18 Gorffennaf 1796 I.M. at y Bwrdd Amaeth, 28 Gorffennaf 1796 William Matthews at I.M., 6 Hydref 1796 I.M. at Syr Richard Colt Hoare, 17 Awst 1797 I.M. at William Owen Pughe, 20 Rhagfyr 1798 William Owen Pughe at I.M., 28 Awst 1800 I.M. at David Williams, 1 Ionawr 1803 I.M. at Owen Jones, 5 Ebrill 1806 I.M. at Taliesin Williams, 16–17 Awst 1813 I.M. at Benjamin Hall, 14 Mawrth 1816 I.M. at Ynadon Y Bont-faen, 13 Mawrth 1818 Iolo Morganwg at Taliesin Williams, 17 Ionawr 1826(NLW 21286E, Llythyr 1005)Flimston Jan 17th. 1826. Dear Tally, Instead of inclosing your own Copy of your address the Welsh Bards and Philologists, <Cymreigyddion> You will find in this a correct Copy of it, which will save you double postage, as I had room enough, having no long stories to tell you in my own part of it. I think your address very proper, you wished me to alter something, in it for the better, but I cannot see in what I could do so. I think that your introducing with applause the name and conduct of the Bishop very proper for had it not been for what he has done the Welsh could never have been Stimulated to establish any such Institutions. of this no more at present . . . Jan, 19th, I have not been able to proceed any farther until this, I have been, and still am very ill, Since you left me, worse than ever you saw me. I have almost finished a letter of importance to you which I cannot no[w] finish before it is too late to Send the parcel away by Coach this evening, you Shall have it next tuesday or Wednesday I have been extremly sick and much worse have hitherto ever been ever since you and Nancy left us, and absolutely unable to write any how. treying to do all in my power by using a Candle in the middle of the day, and by doing set this paper on fire I have to day cobled it up as well as I can. I hope you are all well Love to all, Saturday morning Feby, 4th,Edward Williams You will do me the greatest kindness if you will procure a pair of Crutches for me, and send them to Cardiff by next Saturday, at Mr. Pethericks where A neighbour will call for them. I shall never more in all probability be able to Walk but on Crutches. Address: No address Marginalia: [all in Iolo's hand] Annerch Cyflwyn Beirdd ac Awenyddion Cadair wrth Gerdd Dafod, Merthyr Tydful ym Mhendefigaeth Morganwg a Gwent ag Ergin ag Euas, ag Ysstrad Yw, dan eu Prif Derfynau, at Brydyddion ac Awenyddion Cenedl y Cymry, yn Enw Duw a Phob daioni. Ein Brodyr Awengar, Gan sylwi'r cynhyrfiad annisgwyladwy y sydd yn awr yn ymdannu drwy'n gwlad tybiasom yn addas cyflwyno'n synniadau i'ch ystyriaeth yn y modd canlyniadol, Amcan y cyfryw gyffröadau yw adferu clod a braint ein hen Farddoniaeth, mor agos ag bo'n alledig, i'r anrhydedd a fu gynt yn deilwng, a chyfiawn iddi; a chyda hynn diwygio'n hen Iaith ardderchog o'r Llygredigaethau dan ba rai y mae yn awr yn sarn, ag megis gorwedd yn ei gwaed: ag yn bennaf oll dan obaith y llwyddwn mewn mesuur iddei gwaredu o'r *cawr-lygredigaethau a welir yn awr yn Hudlewyrnau amdani ym mhob mann, megis yn codi o ddrewdod y Pwll diwaelod; gair i gall, a gobeithiom ei fod yn ddigon, yw'r maint ar hynn o geinmyged a roddwn och blaen ar hynn o bryd; da cymmeryd pwyll ag amser i ystyried. Yng nghylch y blynyddau o 1451 i'r flwyddyn 1462, sef yn amser a than Nawdd Gruffudd ap Niolas Arlwydd Dinefwr Ag Abermarlais, cynhaliwyd Cadeiriau wrth Gerdd Dafod ag Eisteddfodau ar adferu a diwygio ein Barddoniaeth ac yn yr ail Eisteddfod fawr yng Ngha[er]fyrddin yn 1461, er anffod ir amcan ganmoladwy, digwyddodd anghydfod, ac o hynny ymraniad yn ddwyblaid rhwng Beirdd Dysgedigion Morganwg a Gwynedd, drwy waith Un Dafydd ap Edmwnd o Wynedd yn dangos er ei dwyn *2 i mewn ag ar arfer i'n Celfyddyd wrth awen a Phwyll ag Addysg. Rhai o Feirdd Cadair Morganwg oeddent Ieuan Gethin ab Ieuan ab Lleison Llawdden Fardd o Lynn Llychwr (medd ef ei hunan yn un oi gywyddau) ym Mhlwyf Llan Deilo Tal y Bont y Mro Wyr ym Morganwg, (nid Llandeilo fawr ar Dywi Ieuan ap Hywel Swrdwal o Dir Iarll, Hywel Dafydd ap Ieuan ap Rhys, a Gwilym ap <ap> Ieuan Hen a elwid Gwilym Tew, y ddau hynn hefyd o Dir Iarll: ag eraill, ond Beirdd gwynedd a Dyfed yn Orfodrif *mawr; aeth Barn yr Eisteddfod o'u plaid ag yn erbyn Beirdd Morganwg a sefydlwyd Trefnau Dafydd ap Edmwnd yn Gwlm oes (fal ai gelwid) dros Ddyfed a Gwynedd dan Dan Enw Dosparth Caerfyrddin. Beirdd Morganwg a ymneilldüasont gan ddewis ymbarhàu yn yr hynn ag oeddynt Yn barod; nid amgen Beirdd wrth Fraint a Defod Beirdd Ynys Prydain: ag felly y ngadair Morganwg yn ymbarhau hyd y dydd heddyw dan y cyfryw Enwedigaeth a'u [?] Gair [?] cysswyn eu gorsedd. Gwir yn Erbyn y Byd ag yng Ngorsedd ngorsedd Beirdd Ynys Prydain *ag arwahanred yng Nghadair Pendefigaeth Morgan dan air Cysswyn ei gorsedd; sef Cysswyn Duw a Phob Daîoni. At bottom of page, one of the inserts: *ag ar wahanred yng Nghadair &c Alongside, another insert: *Rai newyddiaethau a gwagor[?] [?] ag nid gwell na ff[?]ch plant bychain ar ba rai nis gellir canu a chynnal synwyr goleulawn, gyda chadw'r [?] i mewn ag ar arfer. dan farn Cadair a gorsedd. Un hen gelfyddyd wrth bwyll ac awen. another insert: * - 1. Cawrlygriad, neu lygredigaeth Gigantic corruption or barbarism Inserts on side of page - not clear where they belong: ynt ac felly byth [?] another insert: oeddynt yn barod Second page: Y mae Cadair arall ym Morganwg dan Enw Cadair Tir Iarll, & Chadair y Ford Gronn, a drefnwyd medd yr hen Gadwedigaethau gyntaf gan yr amherawdr Arthur yng Nghaerllion Llion ar wysg, ag a symmudwyd oddiyno i Dir Iarll, rhan ganol Morganwg, gan Robert Iarll Caerloyw ag ynteu yn yn Frenin Pendefig ag Arlwydd Morganwg ym Mraint ei Wraig Mabli Merch Syr Robert ab Amon ai Etifeddes, a'r Pryd hynny rhodded Enwedigaeth Tir Iarll ar a elwid Cynn hynny Y Maes Mawr ym Morganwg a dywedir mai yn y Maes Mawr ydd oedd Carchar Oeth ag Anoeth wedi ei hadeiliadu dan y ddaear ag Esgyrn y Caisariaid a laddwyd yn y maes Mawr gan Garadawc ap Brân ap Llyr Llediaith, yr Enwoccaf o'n holl [?] Brif-Dywysogion a'n Pendefigion: Gair Cysswyn Cadair Tir Iarll, neu'r ford Gronn, yw Nid Da lle gellir Gwell. Ac yn Nawdd a Chessail (fal ai geiriedir) Cadair Morganwg y cynnelir Un Tir Iarll; Gwedi hynn gan lwyr ymwrthod a Threfnau a gwagorchestion Cadair neu Eisteddfod Caerfyrddin Ymroddasant Feirdd Morganwg i alw adwyn yn ol, Hen Freiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydaïn, a'r hên a Phrifgelfyddyd Cerdd Dafod gan ymroddi danynt dan yr hen Addunedau Cyntefigion, gan ddiwygio a gwellhau lle Gwelid achos, a rhoi'r cwbl dan gadwedigaethau Ysgrif a Llafar gorsedd, fal y bu gynt<[?]>: a'r cyfryw gadwedigaethau yn aros mewn Bod hyd y Dydd heddyw, ac hefyd ar Arfer Cadair a Gorsedd cyn cyn belled ag y mae cyflyrau a damweiniau amser yn rhoi lle i wneuthur felly; a hynn mewn canlyniadau diymdor. Y mae hefyd yn ein plith un neu ddau o hen Feirdd y cyfryw ganlyniadau, ac un ohenynt yn awr dros bedwar ugeinmlwydd oed, wedi Llafurio er ynghylch dengmlwydd oed i gynnull y maint y gallasai o'n hen ysgriflyfrau, ac i ddadysgrifo'r cyfryw hen rai ag nas gallasai eu cael er gwerth, neu mewn amgen o fodd: ag i dynnu hufen y cwbl fal y gellir dywedyd, y mae'n barod i roi'r Cyfryw gynnorthwy inni ac y bo galledig iddo, ond hynn yn Unig tra phery ei einioes. byrr iawn yw'r gweddill sy'n ol, ond ar ol ei farwolaeth wedi cadarnhau ei holl gynnulliad yr honn yn ddiammau yw'r mwyaf ym mhell parth rhifedi, ar un mwyaf detholedig yng yng Nghymru; ag yn holl Ynys Prydain, ac yn yr hollfyd; ond gwae ni! ar ol ei Farwolaeth ni chaniatteir golwg arnynt i neb o'r Byd ond iw Eppil o'i gorph ei hunan; hyd ddechrau'r ugeinfed ganrif neu'r flwyddyn 1901, a hynn yn unig, achos y camymddwyn cywilyddus ag y mae ef wedi ei brofi oddiwrth ei genedl yn gyffredin, ag oddiwrth y Myfyrgyff mawr llwyr diawen, llwyr egwan ei ymbwyll, a mwy na dim llwyr egwan ei ddeall er cymmaint ei hunan glod ai ddichell digymmar iw ynnill, mawr mewn dim ond mewn twyll; bach ym mhob cynneddf rinweddol <rinweddol> a ddichon fod ar ddµn Enwer hefyd yn gymmar, ag os galledig, yn fwy na chymmar iddo Saer bilwg yr Hudlewyrn mawr, y Dr. Sythgwd, a Bardd Teulu Hu gadarn, a chyda'r ddau Gawrgyff hynn Eisteddfodau diweddar Caerfyrddin a'g Aberhonddi, ag eraill a ellir eu henwi, ei eiriau ei hunan gair yng ngair cyn belled ag y gellir ei cofio yw'r Geirddarluniadau uchod nid ydyw'n rhoi Enwau un ag arall o'r dynia[?don] chwilod hynn allan a fynno: onid e peidied. y gwir yw, ni thalont eu gwybod. Dibennion Cadair Merthyr Tydful yw cadw ar gof yr hen gelfyddyd, wrthgerdd a'r hên ddefodau Cadair a gorsedd; - yr hen ag Ardderchog Iaith gymraeg; cynnull y maint or geiriau Cymraeg ag y gellir eu barnu yn bur, er eu bod hyd yma heb gael y lleoedd au gwedd yn ein gairlyfrau: hefyd yr holl hen Orddyfnodau (idioms, or idiomatic modes of Speaking) a dulliau ymadrodd, y mae rhai, oes, a llawer ohenynt, yn synhwyrfawr iawn a chyda hynny yn dalfyr iawn ac yn dra hardd eu hymbwyll, ac yn addurnau disglair i'n hiaith: mynych y clywir hen hanesion traddodiadol yn treiglo yn fyw er oesoedd pell yn ol yng nghymodogaethau hen Gastelli, hen Fonachlogydd &c &c yn debyg iawn i'r hynn a ddichon fod yn wirionedd, ac eto yn ddigon hynod a diddan; foddhâu au clywo, dymunem gynnull y cyfryw mor dalfyr a byrdraith ag a fedrir. - y mae hen ganiadau neu gerddi teulüaidd tra diddan, ag nid llai diniwed, yn Sathredig ar hyd ein gwlad, casgler y goreuon ohenynt: hen Erddiganau Cymreig hefyd, a rhai ohonynt yn drapheraidd cynnuller eu goreuon. &c y mae hefyd rhai hen ddefodau Cenedl a Theulu yn ein plith gwiw son a sylw. Jan 27th. Gan mor hunangar yw'r byd wedi myned nis gellir disgwyll am un peth, heb roi gobrwy am dano, nac mewno, ac Barddoniaeth neu Ryddiaith Ieithyddiaeth neu Hynafiaeth. neu Unpeth arall pa beth bynnag y bo; gan ei fod felly yr ydym yn bwiradu rhoi gobrwyon yn ol y bo'n alledig inni; dymunem i'n Testunau fod bob amser, ag ar bob achos, ir clywedydd a'r Darllenydd. yn ddiniwed o leiaf; ag hyd y gallom a'u tueddiadau yn arwain y meddyliau at ryw ddaioni, a chyfeillgarwch hawddgar, a phrydferth: ag nid iw harwain ar ddidro at oferedd ag anfoesoldeb; a chyda eu bod felly, amcanwn ei bod mor ddifyr a diddan ag a weddai i Ddyn mewn Gwlad lythyrenog eu bod; ond y mae ysywaeth rhai yn ymhyfrydu mewn ansyberwyd o bob rhyw: gobeithiwn na chaffer y cyfryw yn ein plith ni: ni welir yn ein bonheddigion, fal a'u gelwir, y dymuniad [?] na'r ymgais na'r tueddiad lleiaf i annog diwygiad moesau yn ein mysg a gwellhâd ymarwedd <[?]> ac ymddwyn <ymarwedd ac ymddwyn> y naill ohonom at y llaill. eithr yn wrthwyneb i bob peth o'r cyfryw: yn ymroddi n hyttrach i'n harwain i'r cyfryw anferthwch buchedd ag a welir ar lawer yn ein plith, y maent ymroddant yn hyttrach i fod yn Ddrychau nod (Samplau) ym mhob camp a fernir yn anweddus ar ddyn, yn ymroi i erwino yn lle llyfnhâu moesau eu cymmodogion, ag ar ol hynny yn groch eu bloedd am gyfreithiau newyddion i gospi y rhai a welont yn rhodio'n ol yr addysg ag y maent yn gosod o flaen y Cyffredin. Bydded i'r doeth yn ein plith ni'r iselradd a'r ganolradd amcanu gwell na hynn yn ein hymarweddiad; a chymmhwyswn ein Testunau gobrwy at y cyfryw ymdrech. a'u bod yn denu'n cydraddiaid, yn enwedig Ieuengctid ein gwad Gwlad, at Addwynder a harddwch buchedd, ag i Serchu gwybodau Canmoladwy, bydded y cyfryw odebau* yn blaenori yn ein holl amcanion. Gyda hynn ymrown i ddwyn ein hiaith yn ol at y purdeb a welasom ynddi cyn i Lygredigaeth anferth William Owain ymdannu drosti - ag iw gwared o'r trenllif drewllyd a fwriwyd am danu dan wybren wenwynllyd Seren gynffonog a ymgorpholodd yn gwmmw[l] ffiaidd o Darth neu gaddug yr Hudlewyrn mawr ei blaenredydd. yr ydym yn galw ar Gymdeithasau Cymreigyddion ag Eisteddfodau Prydyddion ein Gwlad i ymuno a ni yn yr ymgais [?], i wared ein Hen Iaith bur, hardd. ag ardderchog o'r llaid llawn llyffaint mwy ffïaidd na llyffain[t] yr Aifft gynt ym mha bwll y mae yn awr yn [?] drochedig. amcanwn hynn yn Enw Duw a phob Daioni ag er cadarnhau'r Gwir yn erbyn y By[d] A Chalon wrth Galon, boed i bawb ymuno'n yr ymdrch. *Godebau ideas, godeb an idea Alongside this: *canlyniadau diymdor, uninterupted succesion [?]r dyniethu Third page: pryd, cyn yr elo hi'n ry hwyr. Heblaw llygredigaethau anferthfawr Wm. Owain y mae rhai eraill yn ymdannu ym mhell ac yn agos dros y Gymraeg; Un o'r anferthaf yw rhai Gwynedd yn eu gwaith yn byrhau o benn fal y gellir yn gy[?]iawn y cyfryw eiriau ar rhai hynn. Cla. Ha. bra, Cna, ara, Ne, cru, rhi, lli, co, go, [?], plu, tw, praw, naw, hy, pry, ry, cry, nwy, plwy &c &c & yn lle Claf, haf, braf, cnaf, araf, Nef; cref, rhif, llif. Cof, Gof, pluf, twf, prawf, nawf, hyf. cryf[?] pryf, [?]. Nwyf, plwyf, a llawer mwy o'r cyfryw. Llygredigaeth arall yng Ngwynedd ac yn arferedig iawn ym mhlith Ymneillduwyr Deheubarth, yw rhoi'r sill Ol yn gynffon nid llai anferthol na chynffon hen Sattan - megis yn y geiriau Uniongyrchol. parodol, hynodol, cyffredinol, anferthol, ac eraill, rifedi mawr, o'r cyfryw, yn lle Uniongyrch, parod, hynod, cyffredin anferth &c &c; llawer mwy o lygredigaethau y sydd yn ein hiaith, genedigion gwynedd agos i gyd ydynt, eithr ba le bynnag a'u ganedig i'r grogbren a nhwy i gyd. Wedi Eisteddfod gyfallwy Gruffudd ab Nicolas yng Nghaerfyrddin effeithiau yr anghydfod yno rhwng Beirdd Morganwg, a Beirdd pob rhann arall agos o Gymry, a [?] barodd ymraniad rhyngddynt. Beirdd Morganwg a lynasant wrth eu hen Ddefodoau Cadair a Gorsedd, ag y maent hyd y dydd heddyw wedi eu cadw yn well nag y gellesid eu digwyll ar Gof Gwlad a Chadair, y mae hefyd ganddynt gadwedigaeth ysgrif mwy cysson a Chymhwyll nag y gallasem gredu eu bod, oni baim yn gweled yr hen Feirdd ym mhob rhann o Gymry yn cyfeirio attynt yn eglurbwyll dros benn, y mae'r Cof am y pethau hynny wedi llithro yn llwyr ar goll ag Anghof yng Ngwynedd er bod Cof am danynt wedi aros yno hyd amser Sion Tudur (oes y Frenhines Elsbed) ond pwy yng Ngwynedd y dydd heddyw a wyr beth oedd Sion Tudur yn ei feddwl yn Nechreu ei Gywydd Moliant i'r Frenhines honno. Torth ddarllain Coelfain Celfydd Gair Naw Gloes ar Gronigl wydd. &c &c neu'r Englyn hwn yn Awdl Dafydd ap Gwilym i Ifor hael, Goreu oedd Ifor oi gorph syth ein Rhi Yn rhoi Deifr ar Essyth, Ar a fu gu Gwehelyth Ar y sydd ag a fydd fyth. Nid oes neb yno yno yn eu dyall yn y gronyn lleiaf. neb! neb un ohonynt oll! ag nid hynn yn Unig; ond nis gwelir yng Ngwynedd un peth lled debyg i drefn Dosparth Defodau Cadair; lle bont yn ymgyfarfod yno neu yn Llundain nid oes ganthynt rith yn y Byd ar drefn cymdeithas <drefn cymdeithas>, ond a [?] fenthycc[an]t oddi wrth y Saeson, Nid hawdd gweled na choll clyw am ddim o'u rhywiau na hen [?] ddefodau Beirdd ynys Prydain, canys felly y dylit fyth eu galw, ond, ond er y dau neu agos i drichan mlynedd Dosparthau Morganwg au gelwir, eithr pa fodd bynnag au gelwir yr ydym ni Awenyddion Merthyr Tudful yn gweled harddwch *a hanbwyll goleulawn ynddynt. ag yn bwriadu eu dwyn ar adfer yn ein Cada[ir] yn raddol, mae'n rhaid inni sefydlu rhyw fath ar Faccwyaeth neu drwyddedgaeth yn ein mysg, gan ymegnïo rhoi'r addysg a fedrom y naill i'r lleill o honom, yn y y Cyfamser er nad ydym mewn gwirionedd yn Feirdd Cadeiriog, yn Bencerddiaid oes neb [?] fwy na ninnau yng Nghymru felly; yr ydym bawb o honom yn rhy bell yn ol ym mabandod Gwybodaeth a Dysgeidiaeth Barddonïaidd i ryfygu cymmeryd arnom y cyfryw enwau, neu Raddenwau, mawrion; gwnaed eraill a fynnont a welo eu balchder Ryfygfawr yn addas, ar lann Taf, ar Lan Teifi ar Lan Cothi, neu ar y Lann a fo da ganthynt - Nyni nid ydym yn Graddenwi'n hunain hyd yma yn Uwch Nag Awenyddion Cadair wrth Gerdd Dafod Merthyr Tudful dan nawdd a braint Cadair a Gorsedd wrth Gerdd Dafod Morganwg, a Gwent, ac Ergin, ac Euas, ac Ystrad Yw a'n Gair Cysswyn Duw a phob Daioni (neu goleuni,) {fe weddi goleuni yn dda ddigon E: W. Etto, er a ddywedasom, yr ydym dan yr anghenreidrwydd i ymarfer yn ein Eisteddfod Cadair, i gymmeryd ag ymarfer a'r cyfryw Raddenwau, er gosod agwedd a ffurfiau a swyddenwau priodol Cadair a Gorsedd deilwng o flaen ag, yn arddangos, i'r Cyffredin, y ffurfiau a'r Trefnau a ddylid i'w hymgad dan obaith y llwyddom hyd at deilyngdod [?ddel] mewn mewn cyfiawnder ym mraint Dysgeidiaeth gwir <gwir> Farddoniaid. Yn Enw Duw a phob daioni, ac yn mewn Gwir yn erbyn y Byd. Alongside this page: hanbwyll derivative reason from han derivation, and pwyll vide han in Dr, Davies & in Richds, Graddenwau Titles or official names, and appellation (NLW 21286E, Letter no. 1005, Iolo Morganwg to Taliesin Williams, 17 January 1826) |