
Trial by Jury (1795)
Dyma enghraifft o ymrwymiad Iolo Morganwg i wleidyddiaeth
radicalaidd. Ddiwedd 1794 gwahoddwyd ef i lunio cerdd ar ryddhau Thomas Hardy, Horne Tooke, a John Thelwall yn dilyn cyhuddiadau o deyrnfradwriaeth. Adroddwyd ei gerdd i ddathlu'r achlysur ar goedd yn nhafarn y Crown and Anchor, 5 Chwefror 1795. Ymhellach, yr oedd Iolo ei hun yn bresennol yn y llys yn ystod prawf Horne Tooke. Gweler
Llythyr Iolo at Margaret (Peggy) Williams.