E N G L I S H

Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)

Cyhoeddwyd y gyfrol hon yn enw Cymdeithas y
Barddoniaeth

Barddoniaeth

Gwyneddigion ym 1789 o dan olygyddiaeth Owen Jones a William Owen Pughe. Yr oedd eu golygiad o gerddi Dafydd ap Gwilym yn dra dylanwadol ond nid oedd Jones a Pughe yn ymwybodol mai ffugiadau o law Iolo oedd y cerddi a gyhoeddwyd yn yr atodiad, yr 'Ychwanegiad'.
Barddoniaeth

Barddoniaeth

Fodd bynnag, deffrowyd eu hamheuon gan David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) a chyfrannodd y ffugiadau hyn yn eu tro at yr atgasedd a dyfodd rhwng Iolo ac Owen Jones.

Enynnwyd diddordeb Iolo yng ngherddi Dafydd ap Gwilym yn ystod ei ymweliadau â Llundain yn y 1770au cynnar pan gafodd gyfle i fodio casgliadau Lewis Morris a'i frawd, William, o waith y bardd. Y mae cerddi ffug Iolo yn hawlio Dafydd ap Gwilym i Forgannwg ac, felly, cynrychiolant dystiolaeth gynnar i'r rôl arwyddocaol y byddai Morgannwg (a Dafydd ap Gwilym ei hun) yn chwarae yn Barddas ac, yn wir, ym mhersona barddol Iolo. Daeth y cerddi a briodolodd Iolo i Ddafydd ap Gwilym yn rhan bwysig o'r meddylfryd rhamantaidd cyfoes.
Admin