E N G L I S H

Beirniadaeth


Amheuwyd dilysrwydd peth o ddeunydd Iolo gan ei gyfoeswyr, yn eu plith David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) ac Edward 'Celtic' Davies. Er tegwch iddynt, yr oedd eu hadnoddau a'u harfau gwyddonol yn rhy gyfyng ar y pryd i brofi'r tu hwnt i bob amheuaeth mai ffugiadau mewn gwirionedd oedd 'darganfyddiadau' Iolo. Thomas Stephens, fferyllydd ym Merthyr Tudful, ac Edward Owen, gwas sifil, oedd y cyntaf i feirniadu gwaith Iolo o ddifrif, gan agor cwys ar gyfer academyddion proffesiynol - Syr John Morris-Jones, Syr Ifor Williams a G. J. Williams - a fyddai'n beirniadu ei waith yn drylwyr o'r 1890au ymlaen. Er bod eu casgliadau yn rhai dadleuol ar y pryd, cafwyd gwared ar lawer o ddeunydd ffug Iolo a ffurfiwyd fersiwn newydd o hanes cenedlaethol Cymru. At hynny, yn sgil eu gwaith, condemniwyd Iolo Morganwg gan nifer o'r 'ysgolheigion newydd' fel ffugiwr a lygrodd ffynonellau ysgolheigaidd Cymreig am yn agos i ganrif.

Yr Orsedd

Ym 1896 cadarnhawyd barn John Morris-Jones ynghylch tarddiad yr Orsedd gan yr awdur a'r newyddiadurwr dylanwadol Owen M. Edwards. Eto i gyd, gwrthododd ddadleuon John Morris-Jones dros ollwng yr Orsedd dros gof:

In his new article on the 'Gorsedd of the Bards of the Isle of Britain', Professor J. Morris Jones, in the April number of Cymru, proves that the Gorsedd theology is not druidical at all, but an echo of the Cabbalistic literature which accompanied the revival of Letters and the Reformation, between the fourteenth and the seventeenth centuries. Professor Jones will probably succeed in proving that nothing connected with the Gorsedd can be traced back to a date earlier than Tudor times. It is to be hoped that, henceforth, the ignorant generalising concerning hoary antiquity and impossible druids will cease. The Gorsedd, divested of the humbug which is too often associated with it, might serve a good purpose. It might be used to show to the thousands that frequent the Eisteddfod how Literature and Music and Art are honoured in our Republic of Letters in an Eisteddfod that is the creation of a literary peasantry. But the alacrity with which the bards will hold a 'special Gorsedd', in order to confer a degree upon any rich tradesman or country squire - though absolutely wanting in the learning or genius which those degrees pre-suppose - degrade it in the eyes of all who care anything for genius, for learning in Wales.
Wales, III, no. 25 (1896), 235

Condemnio

Yn y rhagair i Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad (1926), cyfrol arloesol ei ddisgybl G. J. Williams, crynhodd Syr John Morris-Jones ei deimladau ynghylch Iolo Morganwg:

Fe ddyfeisiodd bob math ar chwedlau di-sail am hanes Cymru o'r oesoedd cyn-Crist hyd ei oes ei hun; fe sgrifennodd gyfresi o drioedd ffug-hynafol a lluosogrwydd o ffug-gofnodion o bob math am fucheddau saint, a beirdd, ac eisteddfodau, a phob cyfryw beth; ac fe gopïodd rannau helaeth o'r hen lenyddiaeth, gan newid a llygru'r cwbl, a gwthio i mewn frawddegau a pharagraffau o'i waith ei hun er mwyn iddynt gyfateb i'w honiadau ef a'u cadarnhau. Yr ydym yn araf yn ymysgwyd o'i faglau; ond wedi cael yn rhydd o un twyll, byddwn yn aml yn ein cael ein hunain yn rhwym mewn un arall. Ac y mae lle i ofni y bydd ein llên a'n hanes am oes neu ddwy eto cyn byddant lân o ôl ei ddwylo halog ef.
Gweinyddu