![]() Bywyd IoloDeunydd hunangofiannol (NLW 21387E ) Y Sylwebydd Amaethyddol a'r Ffermwr Y LlythyrwrBu Iolo'n gohebu'n gyson rhwng 1770 a'i farwolaeth ym 1826 a chedwir tua 1400 o lythyrau yng nghorff ei gasgliad. Rhyw draean ohonynt (tua 430 llythyr) sydd yn ei law ei hun a Saesneg yw iaith y mwyafrif helaeth ohonynt. Tua 6% yn unig o'r llythyrau a luniwyd yn Gymraeg neu sy'n cynnwys elfen o Gymraeg ac, ar y cyfan, gellir dyddio'r rhain i'r 1770au a'r 1780au pan oedd Iolo'n gohebu â beirdd sir Forgannwg ac aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain. Y mae llythyrau Cymraeg Siencyn Morgan o Lantrisant ym 1771 ac Owen Jones (Owain Myfyr) o Lundain ym 1782 yn darlunio'r cyfnodau hyn yn berffaith. I'r hanesydd Jürgen Habermas, 'canrif y llythyr' oedd y ddeunawfed ganrif, ar sail swm a sylwedd y llythyrau a gylchredai yn breifat ac yn gyhoeddus, mewn cyfrolau printiedig a chylchgronau. Oherwydd grym a dylanwad y llythyr fel dull o ledaenu neges yn effeithiol, yr oedd iddo werth economaidd sylweddol. Yr oedd Iolo yn ymwybodol o hyn a chyfrannodd i sawl cylchgrawn Cymraeg a Saesneg. Tua diwedd ei fywyd yr oedd yn awyddus i weld detholiad o'i lythyrau ei hun yn ymddangos mewn print. Cedwir y llythyrau mewn chwe chyfrol drwchus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: NLW 21280E-21286E. Ceir llythyrau ychwanegol ymhlith casgliadau eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Ganol Caerdydd, Archifdy Morgannwg, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Bodley yn Rhydychen a'r Archifdy Gwladol. At hynny, y mae'r cylchgronau canlynol hefyd yn cynnwys llythyrau o'i eiddo: The Cambrian, The Cambrian Register, Yr Eurgrawn Wesleyaidd, The Gentleman's Magazine a Seren Gomer. Megis llythyrau'r Morrisiaid a llythyrau Trefeca, y mae llythyrau Iolo Morganwg ymhlith y ffynonellau mwyaf gwerthfawr i'r sawl sy'n astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru'r ddeunawfed ganrif. Casgliad Iolo, fodd bynnag, yw'r mwyaf amlochrog a ffres, oherwydd rhychwant y pynciau a drafodir yn y llythyrau ac amrywiaeth eang y bobl y bu'n gohebu â hwy. Golygwyd llythyrau Iolo Morganwg gan Geraint H. Jenkins, Ffion M. Jones and David Ceri Jones. |