Trefflemin (Flemingston)Dyma'r pentref a gysylltir fwyaf ag Iolo Morganwg. Ymgartrefodd yno a dyma lle y magodd ei deulu, y breuddwydiodd am orffennol Rhamantaidd a derwyddol Morgannwg, ac yr ysgrifennodd gyfran helaeth o'i lythyrau, ei gerddi, ei draethodau a'i ffugiadau llenyddol. Yn wir, cyfeiriwyd ambell lythyr at Iolo yn y 'Bardic Lodge, Flimston'. Safai ei gartref ar safle presennol Gregory Farm a goroesodd darlun bras o fwthyn Iolo yn ei law ei hun. Tybir mai gwaith Iolo hefyd yw'r cerflun bach ar dalcen tŷ a saif yn agos i'r fan lle yr oedd ei fwthyn. Erbyn 1815 cwynai Iolo fod y bwthyn mewn cyflwr gwael: '[it] is now in a ruinous state uninhabited and uninhabitable' (NLW 21410E). Wedi dyddiau Iolo, lluniodd ei ferch Margaret (Peggy) gerdd Saesneg sentimental yn disgrifio bwthyn adfeiliedig ei thad. Yn ôl tystiolaeth Mary Williams (gwraig Taliesin Williams) tua 1846, claddwyd Iolo yn eglwys y plwyf (NLW 21277E, rhif 854). Ceir cofeb i Iolo a'i fab Taliesin ar fur yr eglwys, a hefyd ffenestr o wydr lliw er cof am Edward Williams, mab Taliesin. Cerdd gan Margaret (Peggy), merch Iolo, i Drefflemin a bwthyn adfeiliedig ei thad How can I view my once lov'd home And think in days gone by Think on the happy hours I spent Without a heavy sigh Twas there I spent my infant days And all my youthful years But flimston now alas to me A foreign land appears Where is that charming hazel bower Where oft I sat me down 'Tis all destroy'd the spot alas To me is now unknown There oft I sat with heartfelt joy (30b) To view the flowery mead The sturdy oak the verdant fields In spring's first bloom array'd There oft I heard the feather'd train In sweet harmonious song Whilst hopping on from spray to spray Their Maker's praise prolong Whenc'ere I view the verdant fields And gently purling stream Not present but past pleasures now Must be my joyless theme I sought the winding path in vain (31) That led me to the bower Where I a stranger quite to care Spent many a happy hour Within my Father,s garden now I seek alas in vain The flowering shrubs that fenc'd it round Not one of them remain Where's now my Father's humble cot Where I so oft enjoy'd Sweet converse with my parents dear Tis now alas destroy'd Dear flimston fare thee well adieu (31b) Since all I lov'd in thee Are borne off on the stream of time Thou hast no charm for me One wish I feel and only one One boon I humbly crave That I may be when life's no more Laid in my Father's grave. NLW 21377B, tt. 30-1 |